Mae dyn a barhaodd i gyflawni troseddau tipio anghyfreithlon er ei fod yn destun gorchymyn ymddygiad troseddol wedi cael ei garcharu am 15 mis.
Cafodd Stewart Evans orchymyn ymddygiad troseddol 10 mlynedd a dedfryd o garchar wedi’i gohirio yn gynharach eleni yn dilyn cyfres o droseddau tipio anghyfreithlon.
Roedd amodau’r gorchymyn yn gwahardd Mr Evans rhag symud unrhyw wastraff o gartref unrhyw unigolyn, gan gynnwys deunyddiau gardd.
Roedd y gorchymyn hefyd yn ei wahardd rhag hysbysebu i gael gwared ar wastraff o gartref unrhyw unigolyn gyda’r bwriad o dderbyn taliad, ar unrhyw fath o gyfrwng.
Fodd bynnag, wrth dorri amodau’r gorchymyn mewn modd amlwg, ac er gwaethaf y ddedfryd wedi’i gohirio, parhaodd Mr Evans i wneud y ddau beth uchod, gan ddympio’r gwastraff roedd wedi’i gasglu yn anghyfreithlon.
Yn dilyn ymchwiliad gan dîm gorfodi gwastraff y Cyngor, cafodd Mr Evans ei arestio unwaith eto a’i gadw yn y ddalfa cyn cynnal treial.
Yn Llys y Goron Casnewydd ar dydd Iau, 6 Tachwedd 2025, plediodd Evans yn euog i dair trosedd tipio anghyfreithlon a’i ddedfrydu i 15 mis yn y carchar.
Yn flaenorol, roedd Evans wedi pledio’n euog i ddeuddeg cyhuddiad o dipio anghyfreithlon rhwng Ionawr 2023 a Mai 2024.
Arweiniodd Cyngor Dinas Casnewydd ymgyrch i fynd ar ôl troseddau Mr Evans ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Sir Fynwy, a oedd yn cynnwys:
- Dympio gwastraff y cartref ac oergell-rhewgelloedd yng nghoedwig Coed-Gwent
- Dympio sympiau mawr o wastraff y cartref mewn lleoliadau yn New Inn, Abersychan, Mynydd Pwll Du, a Chanolfan Siopa Ringland.
- Dympio gwastraff yn Brangwyn Crescent, Casnewydd
- Dympio gwastraff mewn bin gwastraff masnachol yng Nghaerllion.
Y troseddau hyn a arweiniodd at Mr Evans yn cael y gorchymyn ymddygiad troseddol a’r ddedfryd wedi’i gohirio yn gynharach eleni.
Hefyd yn flaenorol, cafwyd Evans yn euog o droseddau tipio anghyfreithlon yn 2022, ac ar ôl hynny collodd ei drwydded cludwr gwastraff.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’r ddedfryd hon yn dangos y gwaith y mae Cyngor Sir Fynwy yn ei wneud ar y cyd â’n hawdurdodau lleol cyfagos i sicrhau bod tipio anghyfreithlon yn cael ei atal.
“Mae tipio anghyfreithlon nid yn unig yn hyll i’n sir, ond gall hefyd achosi perygl iechyd i’n cymunedau.
“Diolch i’r swyddogion yn Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen am eu hymdrechion yn yr achos hwn.”
Gall preswylwyr sy’n dymuno rhoi gwybod i’r cyngor am dipio anghyfreithlon wneud hynny trwy ein gwefan drwy ymweld â www.monmouthshire.gov.uk/cy/sbwriel-tipio-anghyfreithlon-a-glanhau-strydoedd/.