Skip to Main Content

Ar draws Sir Fynwy, mae grwpiau cymunedol yn dod at ei gilydd i gynnig cyfleoedd i ddysgu, trafod a chymdeithasu.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar 1 Hydref, 2025, fe fu Aelod Cabinet MCC dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler; Yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles; a’r Cynghorydd Jackie Strong, Hyrwyddwr Pobl Hŷn Cyngor Sir Fynwy, yn ymweld â thri grŵp cymunedol ar draws y sir.

Mae’r grwpiau cymunedol hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltiadau cymdeithasol.

Yn Rhaglan, mae aelodau’r grŵp Coffi a Chyfrifiaduron yn cwrdd bob dydd Llun yn Neuadd y Gymrodoriaeth. Nod y grŵp yw cynnig lle cynnes, cymdeithasol lle gall pobl ddysgu mwy am y byd digidol. Diolch i wirfoddolwyr, mae aelodau’n cael cymorth a chyngor am bynciau fel siopa ar-lein, cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, bancio ar-lein, a phwysigrwydd cadw’n ddiogel ar-lein.

Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, “Roedd yr ymweliad â Rhaglan yn brofiad gwych. Mae’r cyfeillgarwch ymhlith aelodau’r grŵp yn amlwg. Law yn llaw â’r gwirfoddolwyr, fe welon ni sut maen nhw’n helpu ei gilydd gyda’u cwestiynau.”

Yn Hwb Cymunedol a Llyfrgell Brynbuga, croesawyd y cynghorwyr gan y grŵp Paned a Chysylltu, sy’n cyfarfod bob wythnos i roi cyfle i aelodau ddal i fyny a chymdeithasu dros baned cynnes o de neu goffi.

Meddai’r Cynghorydd Jackie Strong, Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Cyngor, “Mae grwpiau fel y rhain yn achubiaeth i gymaint o bobl. Maen nhw’n cynnig amser a lle rheolaidd i unigolion fynd allan o’r tŷ a chymdeithasu â ffrindiau; ffrindiau efallai na fyddent wedi cwrdd â nhw oni bai am y grŵp hwn.

“Gall ein Hybiau Cymunedol chwarae rhan allweddol wrth gynnig cyfleoedd i bobl gwrdd mewn mannau cynnes a chroesawgar.”

Yr ymweliad olaf oedd grŵp Gweithredu 50+ y Fenni, sy’n cwrdd yn fisol i drafod materion lleol. .Trwy’r cyfarfodydd hyn, mae’r grŵp yn rhoi mewnwelediadau go iawn i’r Cyngor am yr hyn sy’n gweithio’n dda yn y gymuned a pha welliannau y gellid eu gwneud.

Meddai’r Cynghorydd Ian Chandler, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, “Wrth ymweld â’r grwpiau hyn, rydyn ni wedi cael mewnwelediad go iawn i’r gwaith gwych sydd ar y gweill ar draws ein sir bob wythnos. Diolch am adael i ni alw heibio i’ch gweld.

“Trwy siarad ag aelodau’r grwpiau hyn, rydym wedi gweld pŵer y cysylltiadau cymdeithasol sy’n cael eu meithrin o fewn y gymuned. Mae aelodau’n cymdeithasu, yn meithrin cydberthnasau, ac yn caffael ar sgiliau newydd ar draws y sir.”

Ym mis Gorffennaf 2025, ymunodd Sir Fynwy â mudiad byd-eang sydd ar dwf, sy’n ceisio gwasanaethu ei drigolion hŷn yn well. Trwy ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy’n Oed-gyfeillgar, mae Sir Fynwy yn ymrwymo i hyrwyddo a chynnal y gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n ganolog i ddull Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd. Ceir rhagor o wybodaeth ar: Sir Fynwy yn dod yn aelod o’r Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy’n Oed-Gyfeillgar – Monmouthshire.