Mae Cyngor Sir Fynwy wedi llwyddo i erlyn trigolyn o Wyesham, a blediodd yn euog i ddifrod troseddol ar ôl torri coeden sy’n eiddo i’r Cyngor yn anghyfreithlon, ger ei eiddo. Gorchmynnwyd i’r trigolyn dalu iawndal o £1,520.52.
Cafodd y goeden, a oedd wedi cael asesiad diogelwch a gwaith i godi’r canopi yn ddiweddar gan Dîm Coed y Cyngor i wella mynediad, ei thorri heb ganiatâd. Sylwodd staff y Cyngor ar y gwaith anawdurdodedig, ac arweiniodd hynny at ymchwiliad ac erlyniad llwyddiannus.
Mae Coed yn Ased i ni i Gyd
Mae coed yn rhan hanfodol o amgylchedd trefol Sir Fynwy, ac yn cynnig manteision i bob trigolyn ac ymwelydd, gan gynnwys eu rôl hollbwysig wrth:
- Frwydro yn erbyn newid hinsawdd trwy amsugno carbon a lleihau’r perygl o lifogydd
- Cefnogi Bywyd Gwyllt a rhoi lle i natur i ffynnu
- Gwella iechyd y cyhoedd, gan gynnwys rhoi hwb i systemau imiwnedd
- Gwella’r economi leol, codi gwerth eiddo a gwella profiad ymwelwyr â chanol ein trefi
Er gwaethaf y manteision hyn, mae gan Sir Fynwy un o’r lefelau isaf o orchudd coed trefol yng Nghymru. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i amddiffyn coed a’u cadw, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i wasanaethu’r gymuned gyfan.
Neges Glir: Fyddwn ni Ddim yn Dioddef Difrod
Mae Cyngor Sir Fynwy yn cael tua 500 o ymholiadau sy’n gysylltiedig â choed bob blwyddyn. Ymchwilir i bob un yn unol â Pholisi Coed y Cyngor, sy’n amlinellu sut y mae coed yn cael eu rheoli a phryd y gallai fod angen tocio neu gael gwared ar goed am resymau diogelwch, i ddiogelu’r seilwaith, neu i roi mynediad i hawliau tramwy cyhoeddus. Mae gan drigolion hawliau cyfyngedig i docio canghennau sy’n hongian o goed sy’n eiddo i’r Cyngor; ond, rhaid i unrhyw gamau y tu hwnt i hyn ddilyn y gweithdrefnau iawn, a rhaid i drigolion wirio hefyd a oes gan goeden orchymyn diogelu coed. Mae’r manylion llawn ar wefan y Cyngor o dan yr adran www.monmouthshire.gov.uk/cy/coed/.
Yn anffodus, mae yna adegau pan fydd unigolion yn cymryd materion i’w dwylo eu hunain, gan achosi niwed bwriadol i goed. Mae gweithredoedd o’r fath yn niweidio’r amgylchedd ac yn lleihau’r manteision i bawb. Pan fo’r Cyngor yn gallu adnabod y rhai sy’n gyfrifol, ni fydd yn oedi rhag cymryd camau cyfreithiol—fel y dangosir yn yr achos hwn.
Diogelu Coed ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog pob trigolyn i barchu gwerth coed cyhoeddus i bawb. Maen nhw’n fwy na dim ond rhan o’n tirwedd, maen nhw’n elfen o iechyd, llesiant a dyfodol ein cymuned. I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae’r Cyngor yn rheoli coed a beth i’w wneud os oes pryderon gennych, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/coed/