Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi erlyn Anthony Manson yn llwyddiannus, yn dilyn achos gofidus dros ben o esgeuluso anifeiliaid, a arweiniodd at farwolaeth merlyn ifanc.

Yn dilyn adroddiad gan aelodau o’r cyhoedd am ferlyn a ddarganfuwyd wedi’i glymu heb fynediad at ddŵr na chysgod yn Nhyndyrn, Sir Fynwy, disgrifiodd y tystion y merlyn fel un tenau dros ben a dywedwyd ei fod yn crynu.

Aeth swyddogion Cyngor Sir Fynwy i’r safle i ymchwilio a darganfod Mr Manson gyda’r merlyn a oedd yn dioddef yn ddifrifol o ddiffyg maeth. Er gwaethaf ymdrechion i ymgysylltu ag ef ac asesu cyflwr yr anifail, rhwystrodd Mr Manson y swyddogion a gwrthododd gydweithredu.

Rhoddwyd gwarant er mwyn atafaelu’r merlyn, a gwnaed hynny ar 19 Hydref 2023 mewn cydweithrediad â Heddlu Gwent.

Ar ôl ymchwilio, penderfynwyd nad oedd y tir yn addas ar gyfer cadw anifeiliaid. Nid oedd digon o gysgod na mynediad at ddŵr, ac roedd yr ardaloedd pori yn gyfyngedig. Yn ogystal â hyn, darganfuwyd carcas wedi pydru, wedi’i guddio’n rhannol yn y coetir, ar eiddo Mr Manson.

Fe fu arbenigwr milfeddygol yn edrych ar dystiolaeth ffotograffig ac yn ddiweddarach yn archwilio’r gweddillion. Chwaraeodd Redwings, elusen lles ceffylau fwyaf y DU, ran allweddol wrth sicrhau bod modd cymryd camau ffurfiol.

Cafwyd Mr Manson yn euog o drosedd o dan Adran 9 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 a chafodd ddedfryd o 18 wythnos yn y carchar. Ar ben hynny, cyflwynodd y Llys Ynadon Orchymyn Anghymhwyso Anifeiliaid am Gyfnod Amhenodol o dan Adran 34 Deddf Lles Anifeiliaid 2006, gan wahardd Mr Manson rhag berchen ar anifeiliaid, eu cadw neu fod yn gysylltiedig â gofalu amdanynt neu eu cludo, ac eithrio cŵn. Dyfarnwyd costau o £13,913.30 i’r erlyniad.

Mae’r achos hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod ar ein gwyliadwriaeth a gweithredu’n gyflym wrth amddiffyn lles anifeiliaid. Roedd y merlyn hwn wedi dioddef am amser hir a byddai hynny wedi gallu cael ei atal yn llwyr. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i sicrhau bod unigolion sy’n methu yn eu dyletswydd gofal yn cael eu dal i gyfrif.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn diolch i aelodau’r cyhoedd am eu rhan wrth adrodd am yr achos hwn ac yn ailddatgan ei ymrwymiad i gynnal y safonau lles anifeiliaid uchaf ar draws y sir.