Skip to Main Content

Daeth gwirfoddolwyr o bedair Llyfrgell o bethau Benthyg Sir Fynwy at ei gilydd yn Neuadd y Sir yn ddiweddar i ddathlu popeth y mae’r prosiectau wedi’i gyflawni hyd yma.

Nod llyfrgell o bethau yw: • benthyg pethau sydd eu hangen arnoch ond dydych chi ddim yn berchen arnynt, am gost isel, gan arbed arian a lle • cyfrannu pethau rydych chi’n berchen arnynt ond does dim eu hangen arnoch • cwrdd i rannu gwybodaeth a sgiliau

Mae gan Sir Fynwy bedwar safle Benthyg erbyn hyn, a’r diweddaraf yw’r un yng Nghas-gwent sy’n agor yr haf hwn, yn ychwanegol at Drefynwy, y Fenni a Chil-y-coed.

Ers i’r Benthyg cyntaf agor yn 2022 yn Nhrefynwy, bu cyfanswm o 3,411 o fenthyciadau, sydd gywerth ag arbediad o £73,200 i drigolion, ac arbediad o 41,479kg o garbon deuocsid.

Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb wirfoddolwyr gweithgar sydd eisiau helpu pobl i gael mynediad at y pethau sydd eu hangen arnynt, ac arbed arian a lleihau gwastraff ar yr un pryd.

Trefnodd Cyngor Sir Fynwy y dathliad i ddiolch i’r gwirfoddolwyr am bopeth maen nhw’n ei wneud bob wythnos, ac i roi cyfle iddyn nhw i gwrdd â’i gilydd, rhannu syniadau ac annog ei gilydd.

Meddai’r Aelod o’r Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae’r economi gylchol yn golygu lleihau gwastraff trwy barhau i ddefnyddio cynhyrchion a deunyddiau cyhyd â phosibl, er enghraifft trwy ailddefnyddio, cynnal a chadw, ailbwrpasu, ailgylchu a chompostio.

“Mae gwirfoddolwyr Benthyg yn gwneud gwaith gwych i sicrhau bod eitemau’n cael eu defnyddio dro ar ôl tro, yn hytrach na’u prynu, eu defnyddio unwaith ac yna’u taflu i ffwrdd neu eu gadael i rydu mewn sied.

“Mae hyn yn helpu pobl i arbed arian ac yn helpu i warchod ein hamgylchedd.”

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am fenthyg offer gardd, offer parti, glanhawyr carpedi a llawer mwy, ewch i monmouthshire.benthyg.cymru