Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gydag ysgolion lleol, colegau, darparwyr hyfforddiant a Gyrfa Cymru i sicrhau ein bod yn gwybod ‘cyrchfan’ pob un sy’n gadael yr ysgol ym Mlynyddoedd 11, 12 a 13.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o Fframwaith Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid (YEPF) Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at gynorthwyo pobl ifanc i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Yn ystod mis Hydref, efallai bydd trigolion dderbyn galwadau ffôn, e-byst, neu ymweliadau cartref gan dîm Cyflogaeth a Sgiliau Ieuenctid y cyngor neu swyddogion Gyrfa Cymru. Nid yw’r cysylltiadau hyn yn ddim byd i boeni amdano; maen nhw’n rhan o’n cynllun i gysylltu gyda phobl ifanc a sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

Rydym yn deall y gallai hyn fod yn annisgwyl, ac rydym am roi sicrwydd i deuluoedd mai ein  bwriad yw cefnogi, nid ymyrryd.

Os yw person ifanc eisoes mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, byddwn yn cadarnhau eu bod wedi setlo ac yn hapus. Os nad ydynt yn ymwneud ag unrhyw un o’r rhain ar hyn o bryd, gallwn gynnig arweiniad a chyfeiriad i’w helpu i gymryd eu camau nesaf.

Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ac mae’n hanfodol i helpu i atal pobl ifanc rhag bod yn bobl sydd Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET).

Er mwyn cefnogi hyn ymhellach, bydd y tîm Cyflogaeth a Sgiliau Ieuenctid yn cynnal sesiynau galw heibio ledled y sir ar gyfer unrhyw berson ifanc sy’n ansicr am ei ddyfodol neu nad yw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd.

Mae’r sesiynau hyn yn anffurfiol, yn gyfeillgar, ac wedi’u cynllunio i helpu pobl ifanc i ystyried opsiynau a chael mynediad at gymorth:

  • Cil-y-coed: Dydd Llun, 27 Hydref 2025 – Hyb Cil-y-coed 10am – 3pm
  • Trefynwy: Dydd Mawrth, 28 Hydref 2025 – Hyb Trefynwy 10am – 3pm
  • Y Fenni: Dydd Mawrth, 28 Hydref 2025 – Canolfan Ieuenctid a Chymunedol y Fenni (wrth ymyl y parc sglefrfyrddio) 10am – 3pm
  • Cas-gwent: Dydd Mercher, 29 Hydref 2025 – Hyb Cas-gwent 10am – 3pm

Dywedodd y Cynghorydd Laura Wright, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg: “Fel cyngor, ein nod yw cefnogi’r bobl ifanc yn ein sir hyd yn oed ar ôl iddynt adael yr ysgol. Bydd y rhaglen genedlaethol hon yn ein galluogi ni i gasglu gwybodaeth a all ein helpu i gynllunio ein mentrau a threfnu’r gefnogaeth y mae pobl ifanc yn chwilio amdani.

“Diolch i bawb a fydd yn ymgysylltu â ni dros y mis nesaf.”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Employmentskills@monmouthshire.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid, ewch i: https://www.llyw.cymru/fframwaith-ymgysylltiad-chynnydd-ieuenctid-trosolwgvisit: www.gov.wales/youth-engagement-and-progression-framework-yepf-overview