Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i glywed eich barn am ei Strategaeth Leol ddrafft ar gyfer Rheoli’r Perygl o Lifogydd.
Mae’r strategaeth ddrafft yn nodi sut mae’r cyngor yn rheoli’r perygl o lifogydd, o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin.
Os yw llifogydd lleol wedi effeithio arnoch o’r blaen neu os oes gennych bryderon am y perygl o lifogydd yn y dyfodol, peidiwch â cholli’r cyfle hwn i rannu eich barn a’ch profiadau cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben ddydd Gwener, 26 Medi 2025.
Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar blatfform ymgysylltu’r cyngor, sef Sgwrsio am Sir Fynwy, ac mae’n gwahodd trigolion, busnesau, a rhanddeiliaid i helpu i lywio dull diweddaraf y sir i reoli’r perygl o lifogydd lleol.
Fe welwch hefyd gopïau papur o’r arolwg yn eich hwb cymunedol leol. Fodd bynnag, os hoffech siarad â swyddogion, mae dwy sesiwn galw heibio ar gael y mis hwn:
Dydd Mercher 10 Medi, 9am – 5pm yn Ffordd y Faenor, Cas-gwent NP16 5HZ
Dydd Iau 11 Medi, 9am – 5pm yn Hwb Cymunedol Cil-y-coed, Ffordd Woodstock, Cil-y-coed NP26 5DB
Ewch i’r dudalen ymgynghori ar Siarad am Sir Fynwy i adolygu’r strategaeth arfaethedig a llenwi arolwg byr i rhannu eich gwybodaeth leol a’ch syniadau ar sut y gall y cyngor gefnogi cymunedau, seilwaith, a’r amgylchedd naturiol rhag peryglon llifogydd yn y dyfodol. Llenwch yr arolwg yma: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/rheoli-risg-llifogydd-lleol-yn-sir-fynwy neu ewch i’ch hwb cymunedol lleol i godi copi papur.