Skip to Main Content

Mae ysgolion, neuaddau pentref a grwpiau cymunedol wedi bachu’r her i ymuno yn y bore coffi Masnach Deg mwyaf erioed yn Sir Fynwy.

Mae mwy na 30 o wahanol ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gan ysgolion a grwpiau cymunedol yn Sir Fynwy fel rhan o Fore Coffi Masnach Deg yn ystod Pythefnos Masnach Deg eleni rhwng 22 Medi a 5 Hydref.

Mae’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled y sir yn cynnwys boreau coffi, cynulliadau boreol mewn ysgolion, gwerthu nwyddau a chodi arddangosfeydd Masnach Deg; a phob un ohonynt yn anelu i godi ymwybyddiaeth am y gwahaniaeth enfawr y gellir ei wneud i fywydau ffermwyr ledled y byd wrth roi ambell i eitem Masnach Deg yn y fasged siopa.

Coffi yw un o’r cynhyrchion sydd â’r perygl uchel o gyfrannu at ddatgoedwigo trofannol, gan fod coedwigoedd brodorol yn cael eu clirio ar gyfer planhigfeydd. Ond yn ogystal â rhoi pris teg i ffermwyr coffi a phremiwm i gefnogi cymunedau lleol, mae coffi Masnach Deg hefyd yn sicrhau nad oes angen datgoedwigo trofannol.

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn gyffrous i ddatgelu y bydd Jenipher Sambazi, tyfwr coffi Masnach Deg o Wganda, yn teithio i Gymru. Mi fydd hi’n ymweld â sawl ysgol yn Sir Fynwy, i ddweud wrthynt yn uniongyrchol am y gwahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud i’w bywyd.

Bydd ysgolion hefyd yn cymryd rhan mewn gwers ryngweithiol ar-lein gan yr elusen Maint Cymru, i ddysgu am goffi a choedwigoedd glaw trofannol.

Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy fore coffi a gwerthu nwyddau Masnach Deg yn Neuadd y Sir hefyd i gyd-fynd â chyfarfod llawn y cyngor, ac mae Hybiau Cymunedol Trefynwy a Brynbuga hefyd yn cynnal digwyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’n newyddion gwych bod cymaint o grwpiau yn cymryd rhan yn y bore coffi mwyaf erioed yn y sir.

“Mae mwy a mwy o bobl yn gwybod nawr am y gwahaniaeth y mae prynu Masnach Deg yn ei wneud i fywydau tyfwyr a chynhyrchwyr, ond nid yw cymaint o bobl yn ymwybodol o fanteision amgylcheddol Masnach Deg.

“Dyna pam rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o ysgolion a grwpiau yn cymryd rhan yn y Bore Coffi Masnach Deg mwyaf erioed, i helpu i ledaenu’r neges.”