
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio arolwg preswylwyr 2025 er mwyn cael adborth gwerthfawr ynglŷn â bywyd pob dydd yn y sir.
Mae’r cynllun yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i gysylltu gyda phreswylwyr i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldebau ac Ymgysylltiad, y Cyng. Angela Sandles: “Rydym am glywed eich barn ynglŷn â byw yn Sir Fynwy, eich profiadau yn eich ardal leol, eich barn am wasanaethau’r cyngor, a’r ffordd yr ydych yn cymryd rhan yn eich cymunedol leol.”
Dyma’r ail flwyddyn i’r cyngor gynnal yr arolwg sy’n rhoi cyfle i drigolion roi adborth am ansawdd yr amgylchedd lleol yn ogystal â bodlonrwydd â gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, ailgylchu, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden. Gallwch weld crynodeb o’r arolwg o 2024 yma: www.monmouthshire.gov.uk/cy/arolwg-preswylwyr-sir-fynwy/.
Bydd yr arolwg ar agor i holl drigolion Sir Fynwy tan 31 Hydref.
Dan ofal Data Cymru fel rhan o’u Harolwg Preswylwyr Cenedlaethol, amcan yr arolwg yw cefnogi cynghorau lleol i gynyddu eu dealltwriaeth o berfformiad ac amgyffrediad.
Cymerwch ran yn yr arolwg heddiw trwy fynd at Sgwrsio am Sir Fynwy: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/arolwg-preswylwyr-2025 neu codwch gopi papur yn eich Hwb Cymunedol neu Ganolfan Hamdden leol.