Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda Chogyddion mewn Ysgolion i ddarparu hyfforddiant pwrpasol i’n harlwywyr ysgol.

Nod y prosiect yw annog plant mewn  ysgolion cynradd i fwyta mwy o lysiau a ffrwythau.

Mae ‘Cogyddion mewn Ysgolion’ yn cefnogi staff arlwyo mewn lleoliadau addysgol i ddatblygu’n broffesiynol, drwy roi hwb i’w hyder, adfywio’u sgiliau craidd a hyrwyddo diwylliant bwyd ysgol cadarnhaol.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros  gyfnod o 10 wythnos i garfan o 10 o gyfranogwyr, gan ddefnyddio cyfuniad o sesiynau wyneb yn wyneb a dysgu ar-lein.

Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hyfforddi i gymhwyso’r Rheoliadau Bwyd Ysgol yn effeithiol wrth fynd ati i gyflawni gwasanaethau arlwyo mewn ysgolion. Byddant yn datblygu sgiliau i leihau gwastraff bwyd, cynyddu’r defnydd o lysiau a chyflwyno ryseitiau maethlon. Bydd yr hyfforddiant yn cynyddu eu dealltwriaeth o faeth a’i effaith ar iechyd plant.

Byddant yn dysgu dulliau i ennyn diddordeb disgyblion mewn addysg fwyd, trwy drefnu arddangosfeydd rhyngweithiol a chreadigol. Bydd technegau coginio, gweini, a chyflwyno yn gwella’u sgiliau coginio. 

Bydd yr hyfforddiant hefyd yn canolbwyntio ar atgyfnerthu timau cegin, a meithrin diwylliant bwyd cadarnhaol.

Dywedodd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae gan bob plentyn sydd o oed ysgol gynradd yn Sir Fynwy hawl i bryd ysgol am ddim, ond nid yw pob plentyn yn manteisio ar y cynnig.

“Rydyn ni eisiau denu pob plentyn i fwyta pryd ysgol. Rydym am leihau gwastraff ar y platiau trwy alluogi plant i gael yr hyder i fwyta’r holl bryd, yn cynnwys y llysiau.

“Rydyn ni ar genhadaeth i fywiogi’r blasbwyntiau a meithrin hyder wrth fwyta. Mae cogyddion ysgol yn aelodau pwysig o’r tîm addysg, gan rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yn Sir Fynwy.”

Mae’r rhaglen hyfforddi yn cael ei chynnal ochr yn ochr â Chwedlau Bwyd, sef rhaglen addysg bwyd creadigol sy’n cyfuno adrodd straeon, coginio ac archwilio bwyd mewn ffordd synhwyraidd, i helpu plant i fagu hyder wrth fwyta, a chefnogi’r dasg o gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim yn Sir Fynwy.

Mae hefyd yn cyd-fynd â chyfranogiad parhaus Cyngor Sir Fynwy (CSF) ym mhrosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion.

Eleni, mae afalau yn newydd i brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, ac mae CSF yn treialu’r cyflenwad o afalau gan berllan organig, Welsh Farmhouse.

Am ragor o wybodaeth am Cogyddion mewn Ysgolion, ewch i chefsinschools.org.uk/support/training/