Skip to Main Content

Yn dilyn llwyddiant y Digwyddiad Cymunedau Ffyniannus yn 2024, rydyn ni’n llawn cyffro wrth gyhoeddi ei fod yn dychwelyd, ond y tro hwn gyda dau ddigwyddiad ar wahân.

Cynhelir y digwyddiadau yn Hwb Magwyr a Gwndy ddydd Iau, 16 Hydref 2025 ac yn Neuadd y Farchnad y Fenni ddydd Llun, 20 Hydref 2025.

Mae croeso i bawb ddod i brofi digwyddiad tebyg i farchnad rhwng 11am a 4pm, lle bydd grwpiau a gwasanaethau cymunedol lleol yn arddangos y gefnogaeth a’r gweithgareddau sydd ar gael yn y gymuned.

Yn ogystal â’r stondinau a fydd yn arddangos mudiadau lleol, bydd cyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r gymuned trwy gyfres o weithdai.

Ymhlith y sefydliadau a fydd yno, bydd Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen, Cadwch Gymru’n Daclus, MADS – Cymdeithas Ddrama Amatur Magwyr, Sparkle – Gwasanaeth Cyswllt i Deuluoedd a The Cookalong Clwb.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du-spf/thriving-communities-community-action-network-event/

Meddai’r Aelod o Gabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ymgysylltu a Chydraddoldeb, y Cynghorydd Angela Sandles: “Ar ôl digwyddiad mor wych yn 2024, edrychwn ymlaen at groesawu pawb i’r digwyddiadau eleni.

“Dyma gyfle gwych i drigolion ddysgu am y gwasanaethau a’r mudiadau sydd ar gael yn eu cymuned.”

Rhan-ariennir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU ac mae’n cael ei drefnu gan Gyngor Sir Fynwy, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a Chymdeithas Tai Sir Fynwy.