Skip to Main Content

Heddiw, 15 Awst 2025, mae myfyrwyr Sir Fynwy wedi casglu eu canlyniadau Safon Uwch, Safon UG a BTEC. Mae’r dyddiad hwn yn un y bydd dysgwyr wedi nodi, wrth iddynt gynllunio eu camau nesaf yn eu bywydau a’u gyrfaoedd.

Mae pedair ysgol yn y sir, Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Ysgol Brenin Harri VIII, ac Ysgol Gyfun Trefynwy, wedi gweld staff yn cyfarch myfyrwyr a’u teuluoedd wrth iddynt ddarganfod canlyniad blynyddoedd o waith caled.

Dymunai Cyngor Sir Fynwy longyfarch yr holl ddysgwyr a diolch i’r holl staff yn ein hysgolion a’r teuluoedd sydd wedi eu cefnogi ar hyd y blynyddoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Laura Wright, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg:

“I lawer o fyfyrwyr, bydd heddiw yn nodi diwedd eu haddysg yn eu hysgol. Bydd y rhai sy’n derbyn eu lefelau UG nawr yn edrych ymlaen.

“Rydym yn dymuno’r gorau i bawb ar ba bynnag lwybr ymlaen rydych chi wedi dewis ei ddilyn.

“Rydym hefyd yn dathlu ymroddiad ein holl athrawon ledled y sir. Mae eu gwaith wedi golygu bod ein dysgwyr wedi gallu paratoi eu hunain i gymryd y camau nesaf yn eu bywydau.

“Llongyfarchiadau i ddosbarth 2025.”

Nod yr Ymgyrch Canlyniadau, a gyflwynir gan Cymru’n Gweithio, yw arddangos yr amrywiaeth o opsiynau y gall pobl ifanc eu dilyn ar ôl gadael addysg llawn amser, diolch i’r Gwarant i Bobl Ifanc.

I’r diben hwn, mae casgliad o adnoddau wedi’u creu i gynnig cyngor ymarferol, anogaeth ac arweiniad i bobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd adnoddau hefyd yn cael eu rhannu ar draws gwefan Cymru’n Gweithio a’r sianeli cymdeithasol

Mae cymorth iechyd meddwl am ddim hefyd ar gael drwy GIG Cymru SilverCloud, sy’n cynnig rhaglenni ar-lein hyblyg, sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu pobl ifanc i reoli’r straen, gorbryder a hwyliau isel. Cofrestrwch wrth fynd i nhswales.silvercloudhealth.com/signup/ 7