Heddiw, 21 Awst 2025, mae myfyrwyr Sir Fynwy wedi casglu eu canlyniadau TGAU.
Mae’r dyddiad hwn yn benllanw ar fisoedd o waith caled ac mae’n un y bydd dysgwyr wedi ei nodi, wrth iddyn nhw gynllunio’r camau nesaf yn eu bywydau a’u gyrfaoedd.
Ym mhedair ysgol y sir, Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Ysgol Brenin Harri’r VIII, ac Ysgol Gyfun Mynwy, mae staff wedi bod yn cyfarch myfyrwyr a’u teuluoedd wrth iddynt ddarganfod canlyniad blynyddoedd o waith caled.
Hoffai Cyngor Sir Fynwy longyfarch yr holl ddysgwyr a diolch i’r holl staff yn ein hysgolion.
Hoffem dalu teyrnged hefyd i’r teuluoedd sydd wedi eu cefnogi dros y blynyddoedd.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Mary Ann Brocklesby: “Llongyfarchiadau i ddosbarth 2025.
“Heddiw, rydyn ni hefyd yn dathlu ymroddiad ein holl athrawon ar draws y sir. Diolch i’w gwaith nhw mae ein dysgwyr wedi gallu paratoi eu hunain i gymryd y camau nesaf yn eu bywydau.
“Dymunwn y gorau i bawb ar ba bynnag lwybr rydych chi wedi dewis ei ddilyn.”
I’r rheiny sydd nawr yn awyddus i gynllunio ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol, mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael ar gyrfacymru.llyw.cymru/
Mae cymorth am ddim gydag iechyd meddwl ar gael trwy SilverCloud GIG Cymru, sy’n cynnig rhaglenni ar-lein hyblyg, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i helpu pobl ifanc i reoli straen, gorbryder a hwyliau isel.
Cofrestrwch ar nhswales.silvercloudhealth.com/signup/