Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu cynlluniau ar gyfer llwybr Teithio Llesol newydd sy’n mynd drwy ran o Barc Gwledig Castell Cil-y-coed.

Nod Llwybr Aml-ddefnyddiwr Cil-y-coed yw cysylltu llwybr Teithio Llesol Cysylltiadau Cil-y-coed/Llwybr Glas sydd newydd ei adeiladu â ffordd wasanaeth tarmac y Parc Gwledig, gan greu llwybr hygyrch a thawel i gerddwyr, beicwyr a phobl sy’n teithio o gwmpas o Borthsgiwed i ganol tref Cil-y-coed.

Mae’r llwybr wedi’i gynllunio i annog mwy o bobl i ddewis teithio llesol ar gyfer teithiau bob dydd, gan helpu i leihau traffig, gwella ansawdd aer a chefnogi ffyrdd o fyw iachach. Bydd hefyd yn gwella mynediad i’r Parc Gwledig, gan ei gwneud hi’n haws i drigolion ac ymwelwyr fwynhau treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal.

Mae’r Cyngor nawr eisiau clywed gan drigolion i gasglu syniadau ar gyfer y llwybr.

Hoffai Cyngor Sir Fynwy glywed gennych os ydych chi’n byw yng Nghil-y-coed, Porthsgiwed, Sudbrook, Rogiet, Caerwent a’r ardaloedd cyfagos. Ein nod yw cyrraedd defnyddwyr presennol a defnyddwyr newydd posibl llwybrau teithio llesol yn yr ardal i ddarganfod beth hoffech chi ei weld ar hyd y llwybr.

Gallwch gyflwyno eich syniadau drwy gymryd rhan yn arolwg ar-lein y prosiect, a fydd yn cael ei gynnal drwy gydol mis Awst, ac sydd ar gael yn y cyfeiriad gwe canlynol: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/

Bydd yr arolwg ar gael ar-lein am bedair wythnos rhwng 1af Awst a’r 31ain Awst.

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal dau ddiwrnod galw heibio cyhoeddus lle gallwch weld copïau caled o’r cynlluniau, siarad ag aelodau o dîm y prosiect a gadael sylwadau, a hynny ar y dyddiau canlynol:

  • 11am i 4pm, dydd Sul 10fed Awst 2025, ym Mharc Gwledig Castell Cil-y-coed
  • 9am i 5pm, dydd Llun 11eg Awst 2025, yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed

Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben, bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi, a bydd adroddiad yn cael ei greu ac ar gael i’r cyhoedd ar y dudalen we a nodir uchod.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae hwn yn gam cyffrous arall i wella llwybrau ar gyfer cerdded a theithio ar draws Glan Hafren.

“Rwyf eisoes yn clywed pa mor bwysig yw’r Llwybr Gwyrdd newydd i rieni â phlant ar sgwteri ac mewn cadeiriau gwthio a defnyddwyr sgwteri symudedd, ymhlith eraill.

“Mae llawer o waith wedi’i wneud i ddylunio cam nesaf y llwybr, gan ei wneud yn hygyrch ac yn apelgar wrth barchu ecoleg ac archaeoleg unigryw Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed.

“Rydym sicrhau bod pob dim yn gywir, ac felly, rydym yn annog pob preswylydd i edrych ar y cynlluniau a dweud eich dweud. Os oes gennych syniadau, rydym am eu clywed.”