Skip to Main Content

Rydym yn cefnogi’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan bawb sy’n gysylltiedig ag elusen Canolfan Bridges. Gobeithiwn y byddant yn parhau i gefnogi ein cymuned am ddegawdau lawer i ddod. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Ymddiriedolwyr ers sawl mis ar brydles hirdymor newydd a fydd yn sicrhau bod eu gwaith yn gallu parhau.

Gofynnodd ymddiriedolwyr am brisiad annibynnol ar gyfer Tŷ Drybridge, a chytunodd y Cyngor i hynny. Yn sgil hynny, cytunwyd ar rent marchnad clir. Gofynnodd ymddiriedolwyr am brydles hir a chytunodd y Cyngor i gynnig prydles o 30 mlynedd. Mae’r Cyngor yn cynnig grant i dalu am 85% o’r rhent y cytunwyd arno (90% yn y flwyddyn gyntaf).

Rhaid adolygu’r grant cymorth rhent y mae’r Cyngor yn ei ddyfarnu i denantiaid elusennol bob tair blynedd, ond cyn belled â bod Tŷ Drybridge yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gymuned leol, bydd y grant hwnnw’n parhau. Nid yw’r ddeiseb ar-lein fyw yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i’r ymddiriedolwyr. Ymrwymiad y bydd y Cyngor yn cadw ato’n gadarn.

Trwy oedi rhag llofnodi’r les newydd, ym marn y Cyngor mae’r ymddiriedolwyr yn cyflwyno ansicrwydd diangen i lwyddiant parhaus Bridges. Rydym yn eu hannog i dderbyn y telerau buddiol sy’n cael eu cynnig.