Skip to Main Content

Mae ysgolion a grwpiau cymunedol yn Sir Fynwy yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o Fore Coffi Masnach Deg mwyaf erioed y sir yn ystod Pythefnos Masnach Deg eleni rhwng 22ain Medi a 5ed Hydref.

Mae coffi yn un o’r cynhyrchion sydd â risg uchel o gyfrannu at ddatgoedwigo trofannol, wrth i goedwigoedd brodorol gael eu clirio ar gyfer planhigfeydd. Ond mae coffi Masnach Deg , yn ogystal â darparu pris teg i ffermwyr coffi a phremiwm i gefnogi cymunedau lleol, hefyd yn gwarantu nad oes unrhyw ddatgoedwigo trofannol wedi bod. Mae pawb ar eu hennill!

Dyna pam fod Cyngor Sir Fynwy a grwpiau Tref Masnach Deg lleol yn gwahodd ysgolion a grwpiau cymunedol Sir Fynwy i gymryd rhan ym more coffi mwyaf erioed y sir pan fo’n gyfleus iddyn nhw yn ystod pythefnos Masnach Deg.

Mae Sir Fynwy’n sir Fasnach Deg a, bob blwyddyn, cynhelir llawer o ddigwyddiadau i helpu pobl i ddeall sut y gall ychwanegu ychydig o gynnyrch Masnach Deg at eu siopa wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau ffermwyr ledled y byd.

Bydd ysgolion sy’n cofrestru i gymryd rhan yn y Bore Coffi hefyd yn gallu ymuno â gwers ryngweithiol ar-lein am ddim gan yr elusen Maint Cymru i ddysgu am goffi a choedwigoedd glaw trofannol, a chael coffi Masnach Deg i’w ddefnyddio yn ystafell y staff.

Bydd rhai ysgolion hefyd yn cael cyfle i ennill gweithdy gwneud brownis siocled Masnach Deg i ddisgyblion, neu ymweliad gan ffermwr coffi o Uganda i glywed am y gwahaniaeth y mae Masnach Deg wedi’i wneud i’w chymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae mwy a mwy o bobl yn gwybod nawr am y gwahaniaeth y mae prynu nwyddau Masnach Deg yn ei wneud i fywydau tyfwyr a chynhyrchwyr, ond nid yw cymaint o bobl yn ymwybodol o’r manteision amgylcheddol y mae Masnach Deg yn eu cynnig.

“Dyna pam rydyn ni eisiau i lawer o ysgolion a grwpiau gymryd rhan yn y Bore Coffi Masnach Deg mwyaf erioed i helpu i gyflwyno’r neges!”

I gofrestru eich ysgol neu grŵp cymunedol ar gyfer y Bore Coffi Masnach Deg mwyaf erioed, cysylltwch â hazelclatworthy@monmouthshire.gov.uk 01633 644843.