Skip to Main Content

Yn dilyn pryderon a fynegwyd gan rai aelodau o’r gymuned ynglŷn â dyfodol Ysgol Gynradd Kymin View, mae’r Cyngor Sir yn dymuno egluro nad oes unrhyw gynlluniau i gau Kymin View nac unrhyw ysgol arall yn y Sir ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Laura Wright, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n flin gen i glywed am y pryder a’r gorbryder yn Nhrefynwy a ysgogwyd gan sibrydion sy’n cylchredeg ar-lein ac yn y cyfryngau lleol a hoffwn gynnig rhywfaint o sicrwydd.

“Mae nifer uwch na’r cyfartaledd o leoedd ysgol gwag yn ysgolion cynradd Trefynwy ar hyn o bryd ac mae angen i ni fynd i’r afael; gyda’r mater hwn. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, bu rhai sgyrsiau cynnar iawn am y niferoedd isel o ddisgyblion sydd yn rhai o’n hysgolion a’r her y mae hyn yn ei chyflwyno. Felly, cynnal trafodaethau am hynny yw’r peth cywir a chyfrifol i ni ei wneud.

“Bydd angen i Gyngor Sir Fynwy, ysgolion, rhieni ac aelodau’r gymuned gydweithio i feddwl am sut ydym yn mynd i’r afael â lleoedd gwag yn ein hysgolion. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn glir iawn nad yw cau ysgolion yn rhan o’r ateb. Nid ydym chwaith yn cynnig cael gwared ar addysg cyfrwng Saesneg o Kymin View.”