Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnig prydles newydd 30 mlynedd i Ganolfan Bridges ar gyfer Tŷ Drybridge yn Nhrefynwy.

Mae Canolfan Bridges yn chwarae rhan allweddol wrth hwyluso gweithgareddau cymunedol yn Nhrefynwy a’r cyffiniau. Mae’r Cyngor yn gyffrous am y bartneriaeth barhaus ac yn edrych ymlaen at ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau sy’n fuddiol i’r gymuned.

Yn dilyn trafodaethau drwy gydol y flwyddyn, mae’r cyngor wedi cynnig grant consesiwn rhent o 90% i Ganolfan Bridges am y flwyddyn gyntaf ac 85% am y ddwy flynedd ddilynol, gan alluogi parhad y gwasanaethau y mae’n eu darparu i’r gymuned leol.

Dywedodd Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Ben Callard: “Mae’r Ganolfan Bridges yn sefydliad gwych. Mae wedi bod yn bleser eu cynorthwyo trwy ddarparu lleoliad gwych ers blynyddoedd lawer. Rydym am i’r berthynas hon barhau. Mae’r hyn a oedd unwaith yn sefydliad ifanc bellach yn aeddfed a’n cynnig gwasanaeth trawiadol.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig prydles newydd a fydd o fudd i’r ddwy ochr. Gan ddarparu dyfodol hirdymor diogel i’r sefydliad.”