Ar ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf cyfarfu Cyngor Sir Fynwy â Grŵp Wcreinaidd Sir Fynwy yng Nghas-gwent (sef MUGiC) yn y Caffi Uwchgylchu yn y dref.
Mynychwyd y digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned yn dda.
Roedd y grŵp yn hapus i drafod rhai o’r materion a’r heriau yr oeddent yn eu hwynebu.

Roedd pobl yn siarad am anghenion penodol, o gynhwysiant i ddiogelwch cymunedol a bwlio yn yr ysgol.
Siaradodd aelodau o’r MUGiC am:
· Sut roedden nhw’n teimlo’n rhan o’r gymuned leol
· Diogelwch cymunedol
· Iechyd meddwl
· Yr angen am ddosbarthiadau iaith
· Mae dilysu cymhwyster tramor yn broblem – mae unigolion medrus uchel yn ddi-waith, neu’n gwneud swyddi sgiliau isel
· Yr angen am weithdai cyflogaeth sy’n canolbwyntio ar ysgrifennu CV, technegau cyfweliad, cwblhau ffurflenni cais ac ati
· Yr awydd i drefnu teithiau sy’n dathlu treftadaeth a diwylliant Cymreig
· Cefnogi dechrau busnes
Yn anad dim, mae llawer o bobl yn dal i fod yn ansicr am eu dyfodol yn y DU.
Cafodd materion fel statws mewnfudo, cwblhau addysg a pharhad triniaeth feddygol i gyd eu nodi fel rhesymau dros ansicrwydd.
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dadansoddi’r holl wybodaeth o’n digwyddiad ymgysylltu ac yn rhoi adborth i’r grŵp ar sut y gallwn gefnogi rhai o’r materion a’r heriau.
Dywedodd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned fel hyn yn ffordd wych o gwrdd a gwrando ar aelodau o’n cymunedau.
“Byddwn yn ystyried y pwyntiau a wnaed gan y mynychwyr yn y Caffi Uwchgylchu.
“Efallai na fyddwn yn gallu helpu gyda phob agwedd, ond gallwn yn sicr gyfeirio pobl at weithwyr proffesiynol a sefydliadau perthnasol. Byddwn yn ceisio helpu’r grŵp gyda chynllunio prosiectau a digwyddiadau chydlyniant.
“Hoffwn ddiolch i aelodau MUGiC am gymryd yr amser i gwrdd â ni.”
Tags: Chepstow