Skip to Main Content
Debra Hill-Howells, Brif Swyddog ar gyfer Seilwaith a Craig O’Connor, Brif Swyddog ar gyfer Lleoedd a Llesiant Cymunedol.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi bod Debra Hill-Howells wedi ei phenodi yn Brif Swyddog ar gyfer Seilwaith a Craig O’Connor wedi ei benodi yn Brif Swyddog ar gyfer Lleoedd a Llesiant Cymunedol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Rwy’n falch iawn o rannu’r newyddion gyda chi ein bod, yn dilyn proses gyfweld a chyfarfod Cyngor Llawn, wedi penodi Debra Hill-Howells yn Brif Swyddog ar gyfer Seilwaith a Craig O’Connor yn Brif Swyddog ar gyfer Lleoedd a Llesiant.”

“Mae Debra a Craig wedi adeiladu eu gyrfaoedd yma yn Sir Fynwy, ac rydym yn gyffrous i barhau i weithio gyda nhw wrth iddynt ymgymryd â’r rolau arweinyddiaeth pwysig hyn. Mae eu hymroddiad i gymunedau Sir Fynwy wedi bod yn amlwg drwy gydol eu gwasanaeth, ac rwy’n hyderus y byddant yn parhau i gael effaith gadarnhaol.”

Dywedodd Debra Hill-Howells: “Rwy’n falch iawn o fod yn cymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa yma yn Sir Fynwy. Drwy weithio’n agos gyda Awyddogion ac Aelodau, byddwn yn parhau i ymdrechu i wella seilwaith ledled y sir a chyflawni gwelliannau ystyrlon i’n cymunedau.”

Dywedodd Craig O’Connor: “Rwy’n gyffrous i barhau i weithio ochr yn ochr ag Aelodau a Swyddogion yn fy rôl fel Prif Swyddog ar gyfer Lleoedd a Llesiant. Mae Sir Fynwy yn gartref i drefi, pentrefi ac atyniadau bywiog ym mhob cwr o’r Sir, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n cymunedau i arddangos y cryfderau hyn a chefnogi datblygiad parhaus y Sir.”