Dechreuodd Cyngor Sir Fynwy Wythnos y Lluoedd Arfog gyda seremoni codi baner yn Neuadd y Sir ddoe (23 Mehefin), gan nodi dechrau wythnos sydd yn anrhydeddu cymuned y Lluoedd Arfog.
Codwyd y faner gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Peter Strong, ynghyd ag arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby.

Bydd y Cyngor yn cynnal boreau coffi traws-genhedlaeth drwy gydol yr wythnos, gan ddod â chyn-filwyr a’r gymuned ynghyd ag ysgolion lleol i rannu straeon.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Peter Strong: “Mae’r wythnos hon yn rhoi’r amser i ni ddod at ein gilydd a dangos ein gwerthfawrogiad i Gymuned y Lluoedd Arfog. Rydym yn falch o gefnogi ein Lluoedd Arfog ac yn edrych ymlaen at gynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru ar ddydd Sadwrn hwn, 28ain Mehefin.”
Bydd yr wythnos yn cyrraedd uchafbwynt wrth i Gyngor Sir Fynwy gynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru ar ddydd Sadwrn, 28ain Mehefin 2025, yng Nghastell a Pharc Gwledig hardd Cil-y-coed.
Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn gyfle i ddod ynghyd a dangos ein gwerthfawrogiad o gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, cadetiaid, a’u teuluoedd.
Drwy gydol y dydd, bydd y rhai sy’n mynychu yn profi arddangosfa barasiwt gyffrous gan Dîm Arddangos Parasiwt Falcons yr Awyrlu Brenhinol, cyfle i weld yr awyren Spitfire hanesyddol yn hedfan diolch i Hedfan Goffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol, perfformiad gan fand uchel ei barch, sef Band Catrawd yr Awyrlu Brenhinol a llawer mwy o arddangosfeydd.
Os nad ydych wedi sicrhau eich tocyn am ddim eto, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/diwrnod-cenedlaethol-y-lluoedd-arfog/
Nododd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Os nad ydych eisoes wedi sicrhau eich tocyn, byddwn yn eich annog i wneud hynny’n gyflym. Mae digwyddiad Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru yng Nghil-y-Coed yn caniatáu i ni fel Cyngor a’n cymunedau ddangos ein cefnogaeth i ddynion a menywod sy’n gwasanaethu’n weithredol a chymuned gyfan y Lluoedd Arfog.
“Edrychaf ymlaen at eich gweld yno.”