Skip to Main Content

Hoffem ddiolch i Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, Ken Skates, am gyfarfod â Chyngor Sir Fynwy heddiw, ynghyd â chynrychiolwyr Cyngor Cymuned Rhaglan, Catherine Fookes AS ac Aelodau’r Senedd, i drafod y diffyg cynnydd wrth fynd i’r afael â’r pryderon diogelwch ar yr A40.

Er ein bod yn falch o weld ein cais am y 50mya ar y darn hwn wedi’i gyflwyno, credwn y gallai gweithredu mesurau tymor byr ychwanegol gefnogi diogelwch ymhellach. Fodd bynnag, er bod cyflymderau cyfartalog wedi’u gostwng, nid yw cydymffurfiaeth yn gyffredinol, ac mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru wedi cytuno i edrych ar fesurau ychwanegol yn y tymor byr.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i archwilio pa fesurau o fewn ein rheolaeth y gellir eu gweithredu hefyd. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i barhau i ddatblygu’r ymyriadau hyn tra bod atebion tymor hwy yn cael eu harchwilio a chyn unrhyw waith mawr.

Rydym yn croesawu’r cyfle i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru i adolygu canlyniadau’r adroddiad diogelwch fel y gallwn liniaru unrhyw ganlyniadau anfwriadol o’u cynigion ar ganol pentref Rhaglan a’r gymuned leol.

Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, Cllr Catrin Maby, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, Ken Skates, a cynrycholydd Catherine Fookes MP, Jackie Atkin