Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru ar ddydd Sadwrn, 28ain Mehefin 2025, yng Nghastell a Pharc Gwledig hardd Cil-y-coed.

Mae’r digwyddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn gyfle i ddod ynghyd a dangos ein gwerthfawrogiad o gymuned y Lluoedd Arfog – gan gynnwys personél sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, cadetiaid a’u teuluoedd.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru eleni yn cynnwys ystod ysblennydd o’r atyniadau mwyaf a fydd yn cyffroi ac yn ysbrydoli pobl o bob oed.

Bydd yr awyr uwchben Castell Cil-y-coed yn dod yn fyw wrth i Dîm Arddangos Parasiwt Hebogiaid yr RAF gyflwyno sioe heb hail na ddylid ei cholli. Gan ychwanegu at y cyffro yn yr awyr, bydd yna griw yn hedfan heibio o Garfan Goffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol a fydd yn cynnig cyfle prin i weld yr awyren Spitfire hanesyddol yn hedfan.

Bydd y digwyddiad yn dechrau ar lawr gwlad gyda gorymdaith o gadetiaid a chyn-filwyr, gan amlygu balchder a disgyblaeth eu haelodau. Bydd perfformiad cyfareddol yn arwain yr orymdaith gan Fand uchel ei barch Catrawd yr Awyrlu Brenhinol.

Gall y sawl sy’n ymweld archwilio arddangosfeydd ac arddangosiadau diddorol hefyd, cwrdd â chynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog a’r Gwasanaethau Golau Glas – gan gynnwys Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac Achub Mynydd Longtown – a chysylltu ag elusennau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol, SSAFA, Cymorth i Arwyr, a Chanolfan Gefnogaeth Cyn-filwyr Sir Fynwy.

Mae dros hanner y tocynnau am ddim bellach wedi’u harchebu ac felly ewch ati nawr i sicrhau tocynnau er mwyn peidio â cholli diwrnod llawn hwyl i’r teulu: www.monmouthshire.gov.uk/cy/diwrnod-cenedlaethol-y-lluoedd-arfog/

Dywedodd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Peter Strong: “Rydym yn agosáu at ddiwrnod na fyddwch chi eisiau ei golli. Edrychwn ymlaen at groesawu trigolion ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

“Peidiwch â cholli’r arddangosfa barasiwt gyffrous a rhuo eiconig yr awyren Spitfire.

“Gadewch i ni ddod at ein gilydd i anrhydeddu gwasanaeth, dathlu cymuned, a mwynhau diwrnod o brofiadau bythgofiadwy.” Cefnogir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn gan Gyngor Sir Fynwy, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i cefnogir gan Gyngor Tref Cil-y-Coed.