
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Fynwy yn ceisio eich barn i’w helpu i ddeall anghenion a phryderon cymunedau Sir Fynwy yn well.
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau sy’n cynnwys y Cyngor, Heddlu Gwent, Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru, y Gwasanaeth Prawf a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Drwy rannu eich profiadau, rydych chi’n helpu i gyfrannu at greu amgylchedd mwy diogel i bawb.
Mae’r arolwg yn caniatáu i drigolion a pherchnogion busnesau fynegi pa mor ddiogel y maent yn teimlo yn eu cymuned leol ac yn rhoi cyfle i roi adborth ar welliannau posibl.
Mae tri arolwg ar gael trwy Sgwrsio am Sir Fynwy: un ar gyfer aelodau’r gymuned, un ar gyfer busnesau, ac arolwg pobl ifanc i’r rhai o dan 18 oed.
I gymryd rhan, ewch i wefan Gadewich i ni Sgwrsio neu’ch hwb cymunedol lleol, llyfrgell neu ganolfan hamdden i dderbyn copi papur.
Gellir dod o hyd i’r fersiwn ar-lein yma: www.letstalkmonmouthshire.co.uk/community-safety-survey
Bydd yr arolwg yn cau ar ddydd Sadwrn 31ain Mai 2025.
Mae diogelwch cymunedol yn cynnwys sicrhau bod ein cymdogaethau yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb, gan gynnwys ymwelwyr â Sir Fynwy. Mae’n cwmpasu atal troseddau, hyrwyddo iechyd a lles, a meithrin ymddiriedaeth a chydweithrediad ymhlith aelodau’r gymuned.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae Sir Fynwy yn lle gwych i fyw ac ymweld ag ef, ac rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau y gall pawb fwynhau ein sir yn hyderus. Cymerwch yr amser i gwblhau’r arolwg; bydd yn ein helpu i lunio Sir Fynwy hyd yn oed yn fwy diogel.”