Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy a’r Priffyrdd Cenedlaethol wedi cyhoeddi diweddariad ar y cyd ar y gwaith ar yr A40 ger Trefynwy.

Ynghyd â phartneriaid eraill, mae’r sefydliadau wedi cydweithio’n gyflym i ddelio â’r argyfwng a sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd.

Cynlluniwyd y rheolaeth traffig a roddwyd ar waith i agor lôn ar y ffordd gerbydau fel bod traffig yn medru ymdopi â pheryglon ar y safle – sy’n cynnwys glaw trwm diweddar a’r tro yn y ffordd.

Mae pob sefydliad yn ymwybodol bod cau’r lonydd, sy’n hanfodol i ddiogelu defnyddwyr y ffyrdd, yn medru aflonyddu ar ddefnyddwyr y ffordd.

Codwyd y mater o draffig wrth gefn o Beech Road i’r A40 hefyd mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhrefynwy yr wythnos diwethaf.

Mae trafodaethau’n cael eu cynnal i gytuno ar newidiadau posibl i’r trefniadau rheoli traffig i liniaru’r aflonyddwch hwn.

Mae’r opsiynau sy’n cael eu harchwilio yn cynnwys adolygu hyd a/neu leoliad y lonydd sy’n lleihau’n raddol ac a oes modd symud heibio Cylchfan Llandidiwg ai peidio, gan gyflwyno system gwrthlif a newidiadau i’r arwyddion.

Mae Priffyrdd Cenedlaethol yn cydweithio â Chyngor Sir Fynwy ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru i gytuno ar y manylion.

Mae arbenigwyr gyda Phriffyrdd Cenedlaethol, ac arbenigwyr a gomisiynwyd i helpu i ddatblygu’r rhaglen waith, wedi rhybuddio y gallai cael gwared ar y creigiau sydd wedi disgyn arwain at ragor o gwympiadau creigiau a thirlithriadau ac mae angen arolygon pellach i bennu cynllun gweithredu priodol.

Bydd Priffyrdd Cenedlaethol yn darparu manylion yr amserlenni ar gyfer y gwaith cyn gynted â phosibl ac maent yn gweithio gyda’r Cyngor Sir ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru gan fod cau’r ffyrdd yn angenrheidiol i wneud y gwaith hwn yn ddiogel ond rhaid ei reoli mor effeithiol â phosibl er mwyn lleihau’r effaith ar ddefnyddwyr y ffyrdd.

Dywedodd Pennaeth Cynllunio a Datblygu Priffyrdd Cenedlaethol, Victoria Lazenby: “Mae mynd i’r afael â’r creigiau sy’n disgyn ar yr A40 yn flaenoriaeth uchel i Briffyrdd Cenedlaethol yng Nghanolbarth Lloegr ac mae gennym dimau arbenigol sy’n gweithio’n galed i ddatblygu a dylunio datrysiad i’r mater hwn.

  “Mae hwn yn fater cymhleth ac mae diogelwch defnyddwyr y ffyrdd a gweithwyr y ffyrdd yn hollbwysig wrth ystyried yr opsiynau.

“Rydym yn gweithio’n agos â phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Sir Fynwy ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, wrth i ni reoli’r digwyddiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi’r effaith y mae’r digwyddiad hwn yn ei gael ar ddefnyddwyr ffyrdd ac rydym yn archwilio cyfleoedd i leddfu’r aflonyddwch hwnnw wrth gynnal diogelwch.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd pobl wrth i ni benderfynu ar ffordd i ddelio â’r argyfwng hwn cyn gynted â phosib gan liniaru unrhyw aflonyddwch.”