Skip to Main Content

Mae prosiect newydd arloesol sydd â’r nod o fynd i’r afael â thlodi bwyd ac arwahanrwydd yn y gymuned wedi’i lansio.

Mae TogetherWORKS yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnig prydau o ansawdd uchel o’r Rhewgell Gornel ar y sail bod pobl yn talu’r hyn y maent yn medru ei fforddio.

Mae TogetherWORKS yn sefydliad cymunedol sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan unigolion a theuluoedd ar adegau o galedi economaidd. Drwy fentrau amrywiol, nod TogetherWORKS yw brwydro yn erbyn tlodi bwyd, meithrin cysylltiadau cymunedol, a hybu ymrymuso economaidd.

Wedi’u paratoi yng nghegin TogetherWORKS, bydd y prydau blasus yn iach ac yn fforddiadwy. Mae TogetherWORKS hefyd yn darparu cyfleoedd i fwyta gyda’n gilydd gan hybu lles cymdeithasol ac emosiynol.

Agwedd allweddol o’r prosiect hwn yw’r cydweithio gydag asiantaethau amrywiol eraill. Bydd yr ymdrech hon ar y cyd yn galluogi TogetherWORKS i gynnig achubiaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf, wrth i brisiau bwyd barhau i gynyddu.

Bydd y rhewgell gymunedol yn hygyrch i bawb, heb fod angen iddynt gael eu hatgyfeirio.

Mae TogetherWORKS wedi gweld drostynt eu hunain y brwydrau ariannol y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at fwyd ffres ac iach.

Mae TogetherWORKS yn gwahodd y gymuned i ddod at eil gilydd i frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw drwy gefnogi’r fenter hanfodol hon. Gall y rhai sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth gyfrannu drwy gyfrannu bwyd dros ben, gwirfoddoli eu hamser, neu ddarparu cymorth ariannol. Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, e-botsiwch isla.arendell@gavo.org.uk  neu ffoniwch 07832191580.

Tags: