Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy bellach yn rhan o wasanaeth caffael newydd sy’n canolbwyntio ar brynu busnes sy’n gymdeithasol gyfrifol.

Wedi’i lansio gan Gyngor Caerdydd, fel rhan o Ardal – partneriaeth gaffael gydweithredol gyda Chyngor Sir Fynwy, Cyngor Torfaen, a Chyngor Bro Morgannwg – bydd y gwasanaeth hefyd yn gweld mwy o gydweithio a mwy o effaith ar y gymuned.

Bydd Cynghorau Ardal yn gweithio i harneisio sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd gyda phartneriaid eraill.

Bydd hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy gaffael cydweithredol, ystwyth.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Rachel Garrick, Aelod Cabinet dros Adnoddau Cyngor Sir Fynwy: “Mae digon o gyfleoedd cyffrous ar y gorwel diolch i Ardal.

“Fel cyngor, byddwn yn gallu defnyddio’r cyfleoedd hyn i helpu i gyflawni ein hamcanion – rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bobl, dod yn sir ffyniannus a chysylltiedig, gwneud y mwyaf o botensial yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, lles gydol oes a bod yn gyngor sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae Ardal o fudd i Sir Fynwy.”

Ffurfiwyd y cydweithio newydd i ddiwallu anghenion tirwedd gaffael sy’n esblygu’n gyflym ac i ddarparu atebion yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Bydd gwasanaeth caffael yr Ardal yn parhau i reoli fframweithiau cydweithredol rhanbarthol De-ddwyrain Cymru, SEWSCAP (fframwaith adeiladu adeiladau), a gwblhaodd werth trawiadol o £1biliwn o brosiectau gydag agoriad Academi STEAM Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, SEWH (fframwaith priffyrdd) a SEWTAPS (fframwaith gwasanaethau technegol a phroffesiynol). Am fwy o wybodaeth, ewch i ardal-caffael.llyw.cymru