Skip to Main Content

Cafodd plant o ysgolion cynradd Cas-gwent ddiwrnod gwych allan yn helpu staff o Gyngor Sir Fynwy i blannu blodau gwyllt mewn ardaloedd o laswelltir.

Roedd disgyblion Ysgol Gynradd Thornwell ac Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair wedi gweithio’n galed ar laswelltir o amgylch yr ardal chwarae ar Goedwig Woolpitch yn ardal Bayfield, Cas-gwent.

Mae’r gwaith yn rhan o raglen Mannau Natur Cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ceisio gwella mannau gwyrdd ar gyfer natur a helpu i gefnogi cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles.

Mae’r plannu blodau gwyllt yn canolbwyntio ar laswelltir sy’n cael ei reoli o dan y drefn dorri gwair Nid yw Natur yn Daclus, sy’n creu dolydd ledled y Sir i greu cynefinoedd deniadol a bywiog i bryfed peillio ac i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Mae rhaglen Mannau Natur Cymunedol eisoes wedi cefnogi prosiectau mewn lleoliadau o amgylch Trefynwy, gyda phrosiectau eraill yng Nghas-gwent ar y gweill ar hyn o bryd a mwy ar y gweill yn y Fenni yn y flwyddyn newydd.

Mae trigolion wedi cael cyfle i gymryd rhan drwy ymgynghori ar y dyluniadau ac mae Cyngor Sir Fynwy yn awyddus i gynnwys ysgolion wrth helpu i blannu coed a blodau gwyllt. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae’n dda gweld cymaint o’r genhedlaeth iau yn cymryd rhan mewn cynlluniau natur fel hyn. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut olwg sydd ar y ddôl blodau gwyllt yn Bayfield pan fydd yn dechrau aeddfedu. Da iawn i’r holl blant ysgol a gymerodd ran.”

Tags: ,