Skip to Main Content

Ydych chi angen mwy o ofod swyddfa? Gweithio gartref ddim yn gweithio i chi?

Gallai MonSpace – amgylchedd gweithio hyblyg mewn safle swyddfa mawr ger Cil-y-coed fod yr union beth i chi.

Mae Parc Busnes CastleGate – lle mae MonSpace – ar gyrion Cil-y-coed ac mae’n darparu ar gyfer busnesau o wahanol faint, o gwmnïau bach a chanolig i bobl sy’n gweithio ar ben eu hunain.

Mae’r parcio yn y safle yn rhad ac am ddim ac mae’n cynnwys mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan. Mae gan y parc busnes gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol gyda Chaerdydd, Casnewydd a Bryste yn ogystal â Chanolbarth Lloegr.

Ar ben hyn, mae dileu’r Plazas Tollau o Bont Tywysog Cymru a M48 Pont Hafren yn gwneud CastleGate yn lleoliad gwych ar gyfer cwmnïau sy’n gweithredu ar draws y ffin i gynnal cyfarfodydd a chynadleddau.

Yn ogystal â busnesau, gall y safle gynnig gofod gwaith ar bobl a fu’n gweithio o gartref yn flaenorol, ond sy’n teimlo fod angen iddynt gysylltu gydag eraill – neu ar gyfer y rhai nad yw gweithio gartref yn ymarferol bellach gan nad oes ganddynt ddigon o le.

Cafodd y safle ei ailwampio yn llwyr, gyda chelfi modern a ffenestri panoramig yn rhoi teimlad ffres a modern ym mhob man.

Mae hyd yn oed gaffe ar y safle.

Mae’r parc busnes o fewn tafliad carreg o dir hardd Castell Cil-y-coed – sy’n boblogaidd gyda cherddwyr, ffotograffwyr a’r rhai sy’n edrych am le braf i dreulio eu hawr ginio.

Dywedodd y Cyng. Paul Griffiths, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r swyddfeydd ym Mharc Busnes CastleGate yn gyfle gwych ar gyfer busnesau a gweithwyr proffesiynol yn yr ardal.

“Gydag amrywiaeth o ofodau i weddu i bob amser, mae’n sicr y bydd rhywbeth i bawb.

“Os ydych yn fusnes bach, angen gofod ar gyfer hyfforddiant neu gynadleddau, yn gweithio ar ben eich hun neu’n hunan-gyflogedig, pam na ddewch draw i weld beth all CastleGate ei gynnig i chi?”

I ganfod mwy am ofod swyddfa ym Mharc Busnes CastleGate, neu i gofrestru eich diddordeb, ewch i:Swyddfeydd Gweithio Hyblyg MonSpace, Parc Busnes CastleGate – Sir Fynwy

Tags: ,