Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi arwyddo cytundeb arloesol Heddiw (10fed Tachwedd) gyda thri awdurdod lleol arall yng Nghymru a Lloegr.

Daeth Partneriaeth y Gororau Ymlaen yn realiti mewn digwyddiad swyddogol a gynhaliwyd yng Nghastell y Gelli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r bartneriaeth newydd yn golygu bod Cyngor Sir Fynwy yn ymuno â Chynghorau Sir Henffordd, Swydd Amwythig a Phowys i ymgymryd â rhai o’r heriau mawr y maent yn eu rhannu.

Nod y pedwar awdurdod lleol yw gweithio’n agos gyda Llywodraethau’r DU a Chymru i ddatblygu’r cydweithio trawsffiniol cyffrous hwn. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar y cyd er mwyn sicrhau cymorth ariannol gan y ddwy Lywodraeth ac ystod eang o bartneriaid eraill i ddatgloi buddsoddiad a dulliau cyflawni newydd mewn prosiectau mawr sydd o fudd i ranbarth y Gororau.

Gan gwmpasu 80% o’r gororau rhwng Cymru a Lloegr, mae gan yr Awdurdodau Lleol nodweddion a daearyddiaeth debyg yn ogystal ag uchelgais hollbwysig ar gyfer y rhanbarth cyfan. Mae’r Bartneriaeth yn darparu ymrwymiad unigryw i weithio’n drawsffiniol, traws gwlad a thrawsbleidiol ar brosiectau mawr sydd er lles gorau’r rhanbarth.

Mae trafnidiaeth, sgiliau a thai, ynni, newid hinsawdd, twristiaeth a chysylltedd digidol yn uchel ar yr agenda, i gyd yn faterion cyffredin i boblogaeth yr ardal o bron i 750,000. Drwy gydweithio, mae’r pedwar Awdurdodau Lleol yn gobeithio sicrhau llwyddiannau trawsffiniol a datgloi miliynau o bunnoedd ar gyfer mentrau a nodwyd sy’n cefnogi economi wledig a thwf gwyrdd y Gororau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: ““Roeddwn wrth fy modd yn llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth heddiw ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r arweinwyr eraill. Rydym i gyd yn cydnabod y cyfleoedd aruthrol y bydd y bartneriaeth yn cynnig ar gyfer Sir Fynwy a’r Gororau. Drwy gydweithio, gallwn fynd i’r afael â’r heriau a rennir sy’n wynebu pob un ohonom, megis tai fforddiadwy ac iechyd afonydd. Rydym yn rhagweld y bydd ein partneriaeth yn cynyddu cyllid a buddsoddiad cyffredinol yn y rhanbarth. Mae’r trafodaethau yr ydym yn eu gweld yn galonogol ac yn profi y gallwn gydweithio i ddatblygu Sir Fynwy a’r Gororau yn eu cyfanrwydd.”

Leaders of the four Councils - Cllr James Gibson-Watt - Powys County Council, Cllr Lezley Picton - Shropshire Council, Cllr Mary Ann Brocklesby - Monmouthshire County Council, Cllr Jonathan Lester - Herefordshire Council
Arweinyddion y pedwar Cyngor – Cyng. James Gibson-Watt – Cyngor Sir Powys , Cyng. Lezley Picton – Cyngor Swydd Amwythig , Cyng. Mary Ann Brocklesby – Cyngor Sir Fynwy, Cyng. Jonathan Lester – Cyngor Swydd Henffordd