Skip to Main Content

Wrth i’r 5ed o Dachwedd agosáu, mae Cyngor Sir Fynwy yn atgoffa pobl i gadw’n ddiogel.

Ar draws y sir, bydd digwyddiadau wedi’u trefnu, sy’n darparu amgylchedd diogel i bobl fwynhau arddangosfeydd.

Os ydych chi’n cael eich dathliadau eich hun, dyma rai i’w gwneud a pheth na ddylech eu gwneud. 

Cofiwch wneud y canlynol: 

  • Prynwch dân gwyllt gan stocwyr cyfrifol yn unig. Dilynwch gyngor diogelwch yn ofalus, gan sefyll yn ôl a pheidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd  heb ei oleuo na’i daflu ar y goelcerth.
  • Cadwch bob anifail anwes tu fewn.
  • Os oes gwartheg mewn caeau cyfagos, rhowch wybod i’r perchennog am eich cynlluniau, gan ei bod hi’n hawdd eu drysu.
  • Ystyriwch y bywyd gwyllt, gan y gallai draenogod, llyffantod, brogaod, madfallod a nadroedd fod yn swatio o dan y goelcerth.
  • Adeiladwch y goelcerth mor agos at y diwrnod â phosibl ac mor bell â phosibl oddi wrth y gwartheg, coed, blychau adar a blychau ystlumod. Gall pentwr mawr o ganghennau a dail edrych fel gwesty 5* i ddraenog. Gwiriwch yn ofalus cyn cynnau’r tân a chynnau’r tân o un ochr er mwyn  rhoi llwybr dianc i fywyd gwyllt o’r fflamau.
  • Dylech sicrhau bod bwced tywod ar gael ar gyfer ffyn gwreichion sydd wedi darfod; peidiwch â’u gadael ar lawr gwlad.

Cofiwch na ddylech gwneud y canlynol: 

  • Peidiwch byth â llosgi pethau plastig, teiars, pren wedi’i drin, tuniau nwy, olew neu eitemau trydanol. Bydd eich canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol yn derbyn yr holl eitemau hyn.
  • Peidiwch â chael eich temtio i losgi hen ddarnau o ddodrefn, matresi a sbwriel cartref oherwydd bydd y mygdarthau gwenwynig yn achosi llygredd ac yn niweidio iechyd pobl.
  • Peidiwch ag adeiladu eich coelcerth yn agos at siediau gardd, tai a hyd yn oed ffyrdd cyfagos lle gallai’r mwg effeithio ar welededd modurwyr.
  • Peidiwch byth â gadael eich tân heb neb yn gofalu amdano a sicrhewch ei fod wedi diffodd yn llwyr cyn gadael y safle

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: https://www.southwales-fire.gov.uk/newsroom/news/stay-alert-dont-get-hurt-this-halloween-and-firework-period/

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Gall coelcerthi ac arddangosiadau tân gwyllt fod yn hwyl, ond gallant hefyd fod yn beryglus neu’n frawychus – i bobl, anifeiliaid anwes, gwartheg a bywyd gwyllt – ac felly, byddwch yn ofalus a chadwch yn ddiogel yn ystod y dathliadau. Dilynwch y cyngor diogelwch yn ofalus, a meddyliwch am yr effaith ar yr amgylchedd hefyd. Os yn bosibl, ewch i ddigwyddiad sydd wedi ei drefnu i ddathlu a gwylio’r arddangosfeydd, yn hytrach na chael coelcerthi a thân gwyllt mewn gerddi cefn.”

Monmouthshire County Council’s Cabinet Member for Climate Change and the Environment, Cllr Catrin Maby,
Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd