Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy a Chymdeithas Tai Sir Fynwy yn gweithio gyda Swyddfa’r Post i ddod â’r gwasanaeth hanfodol hwn yn ôl i Gil-y-coed.

Mae’n gyfle i fusnes yng nghanol y dref i wasanaethu’r gymuned leol – a denu mwy o gwsmeriaid ar yr un pryd.

Mae Swyddfa Bost fel arfer yn gweithio orau fel ychwanegiad at fusnes arall. Gallai hyn fod yn:

  • Busnes sydd eisoes yng nghanol y dref, yn agor Swyddfa Bost yn ei safle presennol
  • Busnes yn ehangu neu’n adleoli i Gil-y-coed ac yn cynnwys Swyddfa Bost
  • Busnes newydd, gyda Swyddfa Bost yn rhan o’r cynnig
  •  

Mae’r cymorth sydd ar gael gan Gyngor Sir Fynwy a Chymdeithas Tai Sir Fynwy (CTSF) yn cynnwys:

  • Cyllid ar gyfer gwelliannau i eiddo yng nghanol y dref
  • Mae CTSF ar hyn o bryd yn cynnal uned canol tref mewn lleoliad gwych ar gyfer busnes sydd am redeg Swyddfa Bost
  • Atgyfeiriad trwy Busnes Sir Fynwy i gael cymorth a chyngor ar sefydlu neu dyfu eich busnes a chwblhau’r cais ar gyfer sefydlu Swyddfa Bost.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae hwn yn gyfle gwych i fusnes sydd eisoes yn bodoli yng Nghil-y-coed neu fusnes sy’n edrych i adleoli.

“Byddai Swyddfa Bost yn hwb i’r busnes hwnnw ac o fudd i’r dref.

“Rydyn ni’n gwybod pa wasanaeth hanfodol y mae Swyddfa Bost yn ei ddarparu, ac rwy’n siŵr y byddai trigolion Cil-y-coed yn cytuno y byddai’n cael ei ddefnyddio a’i gefnogi’n dda yn y dref.

“Rwy’n annog busnesau i ddysgu mwy am ychwanegu Swyddfa Bost i’w cynnig i gwsmeriaid.”

Dywedodd Chris Kinsey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu CTSF: “Mae Swyddfeydd Post yn darparu achubiaeth hanfodol i rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, yn ogystal â darparu gwasanaethau hanfodol a rhyngweithio o ddydd i ddydd i lawer o bobl a chymunedau. Rydym yn annog ymgeiswyr i ddod ymlaen.”

Dywedodd Laura Tarling, Rheolwr Materion Allanol yn Swyddfa’r Post: “Mae Swyddfeydd Post yn darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau, ac rydym yn awyddus iawn i glywed gan fusnesau lleol sydd â diddordeb i gyflwyno cais am Swyddfa Bost yng Nghil-y-coed.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bostfeistr mwyaf newydd Cil-y-coed, cofrestrwch yma – runapostoffice.co.uk/branch/caldicot-post-office-caldicot-np26-4ly

Am fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, e-bostiwch â Sadie Beer –sadiebeer@monmouthshire.gov.uk