Skip to Main Content

Yn dilyn cais llwyddiannus i Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Fynwy yn lansio’r Prosiect Llwybrau i’r Gymuned.

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd o wneud y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir a bydd yn cyfrannu at dargedau cyfiawnder cymdeithasol, lles a chymunedau cydnerth.

Mae rhan o’r prosiect yn galluogi staff Mynediad Cefn Gwlad MonLife i weithio gyda grwpiau gwirfoddol cymunedol, gan ddarparu deunyddiau, hyfforddiant a gwybodaeth iddynt, wrth wneud gwelliannau i arwyddion a hygyrchedd llwybrau.

I ehangu ar y prosiect hwn, mae Cyngor Sir Fynwy wedi arwyddo Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Cherddwyr Cymru – y cyntaf o’i fath yng Nghymru neu Loegr.

Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i ddefnyddio rhan o Gyllid Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru i weithio gyda thri grŵp gwirfoddol cymunedol arall yn Sir Fynwy. Bydd y cyllid yn cael ei weinyddu gan y Cyngor, gyda Cherddwyr Cymru yn darparu swyddog llawn amser i ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgysylltu i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.

Mae digwyddiad lansio cyhoeddus yn cael ei gynnal rhwng 2pm a 4pm ar ddydd Sadwrn, 28ain Hydref yn Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy. Bydd y digwyddiad hwn yn galluogi trigolion i ddod draw i ddysgu mwy am y prosiect a sut y gallant gymryd rhan.

Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Cherddwyr Cymru i helpu i wella llwybrau lleol a mynediad i fyd natur. Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd gyda’r cerddwyr yn bartneriaeth sylweddol sy’n caniatáu i ni wella hawliau tramwy cyhoeddus yma yn Sir Fynwy. Bydd hyn yn rhoi’r llwybrau gorau i drigolion ac ymwelwyr fynd i gerdded neu heicio, gan gysylltu cymunedau ac economïau lleol.

“Mae ein llwybrau’n byrth sy’n cysylltu ein cymunedau ac yn ein helpu i fynd allan i’r amgylchedd naturiol. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’r digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio a’r lansiad ar 28ain Hydref.”

Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Cerddwyr Cymru : “Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein gwaith i’n helpu i roi cerdded wrth galon cymunedau a rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd. Os ydych chi’n angerddol am gerdded yn eich cymuned, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.”

Digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio:

Trefynwy: Dydd Mercher, 25ain Hydref, 2pm tan 4pm, yn dechrau ym maes parcio’r Parc Sglefrio, Heol Rockfield, Trefynwy, NP25 5AS

Brynbuga: Dydd Iau, 26ain Hydref, 2pm tan 4pm, gan ddechrau ym maes parcio Gwarchodfa Natur Cefn Ila

Os nad ydych yn gallu mynychu un o’r digwyddiadau ond dal am gymryd rhan neu ddarganfod mwy, cysylltwch â rhys.wynne-jones@ramblers.org.uk

Tags: ,