Skip to Main Content

Mae saith grŵp cymunedol wedi derbyn rhwng £550 a £2,000 am eu gwaith o fewn y mudiad bwyd da.

Dangosodd ymgeiswyr eleni sut y maent yn gweithio o fewn eu cymunedau i hyrwyddo bwyd, tarddiad, cynaliadwyedd a chydlyniant cymunedol. Dangosodd ymgeiswyr llwyddiannus sut mae eu prosiectau’n cael eu cyflwyno yn Sir Fynwy ac yn cael eu harwain gan y gymuned drwy gydweithio â busnesau/cynhyrchwyr bwyd lleol.

Bydd y saith grŵp nawr yn gweithio ar eu prosiectau gyda chymorth y grant a chefnogaeth gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy. Ariannwyd y grantiau drwy Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Y saith prosiect llwyddiannus oedd:

• Canolfan Gateway, Y Fenni – Caffi cymunedol.

• Gardd Gymunedol Goetre – offer a hyfforddiant cadw gwenyn.

• PFTA Llandeilo Bertholau – Gardd lysiau ysgol hygyrch sy’n pontio’r cenedlaethau.

• Brynbuga Gyda’n Gilydd dros yr Hinsawdd – gardd lysiau gymunedol a rhannu cynnyrch, gyda gweithgareddau addysgol.

• Neuadd Bentref Pelham – Clwb swper cymunedol.

• Codi Pontydd – ‘Amrywiaeth Maethlon’, addysg bwyd system gyfan.

• Eglwys y Bont, Cas-gwent – Clwb Cinio i Fechgyn (Lad’s Lunch)

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn gydweithrediad sirol o bobl a sefydliadau o bob cefndir sy’n meddwl bod bwyd yn werth ei gymryd o ddifrif. Gyda’i gilydd, mae’n gweithio i greu system fwyd ffyniannus, foesegol a chynaliadwy o fewn y sir a thu hwnt. Nod Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yw:

• Cysylltu pobl, prosiectau a phartneriaid i geisio creu system fwyd leol gynaliadwy.

• Cymryd camau ar y cyd i lunio’r system fwyd leol.

• Bod yn llais cyfunol ar gyfer bwyd sy’n llywio polisi yn gadarnhaol ac yn rhannu arferion gorau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Roedd safon yr holl ymgeiswyr yn dangos y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn ein cymunedau lleol yma yn Sir Fynwy. Llongyfarchiadau i bob ymgeisydd llwyddiannus. Edrychaf ymlaen at weld sut y byddwch yn datblygu’r prosiectau hyn.

“Gyda’r Argyfwng Hinsawdd presennol, mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan i greu cadwyn fwyd leol sy’n medru lleihau’r milltiroedd y mae ein bwyd yn ei deithio. Yma yn Sir Fynwy, gall Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy helpu i gynghori a chefnogi busnesau lleol neu grwpiau cymunedol. Os ydych yn fusnes neu’n grŵp lleol, rydym yn eich annog i gysylltu â’r tîm i ddysgu sut y maent yn eich cefnogi.”

Os oes unrhyw un eisiau dysgu mwy am brosiectau, digwyddiadau neu gyfleoedd ariannu yn y dyfodol, mae modd cofrestru ar gyfer rhestr bostio Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy drwy e-bostiofood@monmouthshire.gov.uk.

Monmouthshire Food Partnership / Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy logo