Skip to Main Content

Yn dilyn cais llwyddiannus i Ganolfan Economi Creadigol Prifysgol Caerdydd gan Gyngor Sir Fynwy, mae SumnerMcIntyre wedi’i benodi’n Gynhyrchwyr Celfyddydau Prosiect Llawrydd i arwain prosiect cyffrous i fapio’r celfyddydau gweledol yn Sir Fynwy ac i wyntyllu’r cyfle ar gyfer Clwstwr Creadigol yn y rhanbarth.

Mae Beth McIntyre, sy’n hanu o Drefynwy ac Ann Sumner wedi cydweithio ers blynyddoedd lawer, ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf fel cydweithwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae Ann yn gyn Bennaeth Celfyddyd Gain ac roedd Beth yn Uwch Guradur (Celfyddyd Gain – Printiau a Darluniau) yn yr amgueddfa. Gyda’i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ymchwilio a chwmpasu prosiectau, arwain ymgynghoriadau, trefnu digwyddiadau rhwydweithio a gweithio gydag artistiaid.

Mae tîm y prosiect yn awyddus i glywed gan gynifer o bobl â phosibl sy’n ymwneud â’r celfyddydau gweledol yn Sir Fynwy neu bobl a hoffai gyfrannu at lunio polisi diwylliannol yn y dyfodol, gan gynnwys canolfannau/lleoliadau, orielau, parciau cerfluniau neu stiwdios. Dros y tri mis nesaf (Hydref – Rhagfyr), mae trigolion creadigol Sir Fynwy yn cael cyfle i ymateb i arolwg byr, sydd i’w weld yma: https://forms.office.com/e/Ny02P2zYxA.

Bydd cyfle hefyd i rwydweithio gyda SumnerMcIntyre mewn cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio ar draws Sir Fynwy.

Cynhelir y digwyddiad rhwydweithio cyntaf ar ddydd Gwener, 20fed Hydref, ym Mharc Cerfluniau Dyffryn Gwy, 2pm-4pm. Mae mwy o fanylion yma: https://www.eventbrite.com/e/creative-tea-in-tintern-tickets-726142621127?utm-campaign=social&utm-content=attendeeshare&utm-medium=discovery&utm-term=listing&utm-source=cp&aff=ebdsshcopyurl

Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf a diweddariadau ar ddigwyddiadau neu sut i gyfrannu at y prosiect hwn, ewch i: https://www.monlife.co.uk/heritage/ 

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae hyn yn gyfnod cyffroes yn ddyfodol y celfyddydau yn Sir Fynwy. Rwy’n edrych ymlaen at glywed syniadau a mewnbwn creadigol pawb. Bydd yn grêt weld datblygiad gweledigaeth glir a nod cyfunol ar gyfer y dyfodol. Ni allaf aros i ddysgu a gweld y cyfleoedd a ddaw o’r prosiect hwn a’r llwyddiant a ddaw yn ei sgil wrth ddatblygu economi greadigol yn Sir Fynwy.”

Am y tîm: Mae Beth McIntyre, sy’n hanu o Drefynwy ac Ann Sumner wedi cydweithio ers blynyddoedd lawer, ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf fel cydweithwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae Ann yn gyn Bennaeth Celfyddyd Gain ac roedd Beth yn Uwch Guradur (Celfyddyd Gain – Printiau a Darluniau) yn yr amgueddfa. Gyda’i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ymchwilio a chwmpasu prosiectau, arwain ymgynghoriadau, trefnu digwyddiadau rhwydweithio a gweithio gydag artistiaid.

Ann Sumner and Beth McIntyre meeting with Emma Bevan-Henderson, Chair of the Abergavenny Art Festival meeting at the Makers Crafts Gallery in Abergavenny
Ann Sumner a Beth McIntyre yn cyfarfod ag Emma Bevan-Henderson, Cadeirydd cyfarfod Gŵyl Gelf y Fenni yn Oriel Makers Crafts yn y Fenni
Tags: , ,