Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penodi Roberts Limbrick Architects and Urban Designers a Chris Jones Regeneration i ddatblygu cynigion ar gyfer Stryd y Bont a Sgwâr Twyn ym Mrynbuga.

Fel rhan o Brif Gynllun Brynbuga a Woodside, mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda Chyngor Tref Brynbuga i ddatblygu cynigion. Bydd y cynigion yn cael eu llywio gan ymgynghoriad â busnesau, trigolion a rhanddeiliaid eraill. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael y gaeaf hwn.

Mae cyllid ar gyfer y gwaith wedi’i ddarparu gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga.

Yn Stryd y Bont, y nod yw creu amgylchedd sy’n rhoi blaenoriaeth i gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a beicwyr, gyda strydlun mwy diogel, mwy cyfforddus a deniadol sy’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau ac yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.

Bydd Sgwâr Twyn yn cael ei drawsnewid yn fan cyhoeddus bywiog, deniadol a chanolfan teithio llesol ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr â Brynbuga – gyda lle i fusnesau orlifo ac ar gyfer digwyddiadau a defnydd dros dro.

Disgwylir i gynigion dylunio cychwynnol ar gyfer Stryd y Bont a Sgwâr Twyn gael eu cwblhau erbyn gwanwyn 2024, gyda chynigion cychwynnol yn cael eu defnyddio i gefnogi ceisiadau am gyllid ar gyfer dylunio ac adeiladu manwl yn y dyfodol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae Brynbuga yn lle hardd gyda chymuned lewyrchus. Edrychaf ymlaen at weld cynigion ar gyfer y dref sy’n rhoi cyfle i bobl sy’n cerdded, yn gyrru neu’n beicio, gan roi mwy o gyfle i fwynhau’r lleoliad hyfryd.

“Mae gan hyn botensial mawr i fusnesau ym Mrynbuga, gyda chyfle i groesawu mwy o bobl leol i elwa o’r amrywiaeth o siopau, caffis, bwytai a thafarndai yn yr ardal.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Steve O’Brien, Maer Brynbuga: “Drwy greu awyrgylch mwy deniadol a bywiog, gallwn ddenu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i archwilio’r natur unigryw a’r hyn sydd gan Frynbuga i’w gynnig. Gydag ystyriaeth ofalus a syniadau creadigol, gallwn drawsnewid ein strydoedd yn fannau croesawgar a fydd nid yn unig o fudd i’n busnesau lleol ond hefyd yn creu ymdeimlad o falchder a chymuned i bawb”.

Dywedodd llefarydd ar ran Roberts Limbrick: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga ar y prosiect cyffrous a phwysig hwn.”

“Mae cyfle gwirioneddol yma i gyfoethogi a dathlu’r cymeriad a’r ‘ymdeimlad o Frynbuga. Ein brîff yw unioni’r cydbwysedd gofod a roddir i draffig ar draul lle i bobl.

“Mae hyn i’w weld yn berffaith yn Sgwâr Twyn lle mae ein dadansoddiad cynnar wedi dangos bod bron i 80% o’r gofod yn y sgwâr yn amlwg ddim ar gyfer pobl. Rydym yn gyffrous iawn am yr hyn y gallai Sgwâr Twyn fod yn y dyfodol. Oherwydd ei dimensiynau ffisegol a’i chyfyngiadau, bydd Stryd y Bont yn fwy o her, ond yn un yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr ato.” Am fwy o wybodaeth neu i gael eich ychwanegu at restr bostio ar gyfer ymgynghoriad ar y cynigion hyn, e-bostiwch:mccregeneration@monmouthshire.gov.uk