Skip to Main Content

Heddiw mae cannoedd o fyfyrwyr Sir Fynwy wedi casglu eu canlyniadau Lefel AS, Lefel A a BTEC. Mae hwn yn ddiwrnod allweddol i ddysgwyr wrth iddynt gynllunio eu camau nesaf yn eu bywydau a’u gyrfaoedd.


Ar draws pedair ysgol y sir, Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Brenin Harri VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy, mae staff wedi cyfarch eu myfyrwyr a’u teuluoedd wrth iddynt ddarganfod canlyniad eu gwaith caled a’u hymroddiad.


Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae heddiw’n nodi diwrnod hollbwysig i’n dysgwyr sydd wedi cyrraedd diwedd eu haddysg yn yr ysgol. Ar gyfer ein dysgwyr sy’n derbyn eu lefelau AS heddiw bydd yn dysgu am y cynnydd y maent wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac ynghyd â’u hathrawon, byddant yn awr yn adolygu ac yn canolbwyntio ar y flwyddyn i ddod. O ran ein myfyrwyr sy’n derbyn canlyniadau Lefel A a BTEC, bydd eu cam nesaf yn un cyffrous, boed hynny i mewn i fyd gwaith, prentisiaeth neu addysg uwch. Mae’r rhain yn fyfyrwyr nad oedd wedi sefyll eu harholiadau TGAU oherwydd y pandemig ac mae’r canlyniadau y maent yn eu cyflawni heddiw yn dyst i’w dygnwch a’u hymroddiad – ac wrth gwrs yr addysgu rhagorol ochr yn ochr â chymorth a gofal pob un o’r staff yn ein pedair ysgol uwchradd. Rwyf am achub ar y cyfle hwn i gydnabod ymdrechion pob un o’n dysgwyr – rydych wedi bod yn wydn ac wedi dangos dewrder mawr wrth sicrhau’r canlyniadau hyn. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i’r staff yn ein hysgolion ac wrth gwrs i deuluoedd y dysgwyr sydd wedi eu cefnogi drwy gydol eu hamser yn yr ysgol.”

Cllr Martyn Groucutt, Cabinet Member for Education,