Skip to Main Content
Derbyniadau Meithrin

Llun o ddosbarth meithrin a logo Cyngor Sir Fynwy

Gall rhieni nawr gofrestru eu plant i ddechrau mewn meithrinfa o fis Medi 2024. Rhaid i rieni gwblhau’r broses o wneud cais erbyn 15fed Medi. Mae ceisiadau ar agor i blant a anwyd rhwng 
1af Medi 2020 a’r 31ain Awst 2021.

Bydd gan yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sy’n agor yn Nhrefynwy yn 2024 ar Heol Rockfield – Ysgol Gymraeg Trefynwy – feithrinfa ar y safle ac mae gan rieni’r ardal bellach y feithrinfa honno fel opsiwn i ddewis ohoni.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r myfyrwyr mwyaf newydd i’n hysgolion ar draws Sir Fynwy. Gyda chyffro mawr, rydym hefyd yn agor y drysau i’r ysgol Gymraeg newydd yn Nhrefynwy wrth i ni ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael ar draws y Sir.”

I gael rhagor o wybodaeth am dderbyniadau meithrin, cysylltwch â’r Uned Mynediad i Ysgolion a Myfyrwyr drwy ffonio 01633 644508, e-bostiwch accesstolearning@monmouthshire.gov.uk

neu ewch i ymweld â’r wefan: https://www.monmouthshire.gov.uk/education/early-years/

Mae gwybodaeth am Ysgol Gymraeg Trefynwy ar gael yma: www.monmouthshire.gov.uk/new-welsh-medium-provision-in-monmouth/