Skip to Main Content

Cyhoeddodd cabinet Cyngor Sir Fynwy heddiw y bydd ymgynghoriad ar ddewis safleoedd posib ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu mwy o ystyriaeth, yn dilyn adborth am y safleoedd ar y rhestr fer yn y pwyllgor Craffu Pobl yr wythnos ddiwethaf.

Ystyriwyd bod safleoedd sy’n eiddo i’r cyngor yn Llanfihangel Troddi a Manson Heights, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer ymgynghori, yn anaddas ar gyfer y defnydd hwn oherwydd mynediad a materion eraill, tra bod angen mwy o ymchwiliad ar safleoedd y rhestr fer ym Magwyr a Gwndy, i ganfod eu haddasrwydd ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol. 

Mae gan Sir Fynwy angen asesedig i gynnwys 13 llain hirdymor ar gyfer aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghynllun Datblygu Lleol y Sir, ynghyd â dyraniadau tir ar gyfer cartrefi newydd a safleoedd cyflogaeth.

Gan nad oes unrhyw gynigion wedi dod gan y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr nac o dirfeddianwyr lleol ar hyn o bryd, mae’r Cyngor wedi apelio unwaith eto ar berchnogion safleoedd posibl i gyflwyno, yn ogystal â galwad i holl drigolion Sir Fynwy i gynnig safleoedd posibl. Ochr yn ochr â’r apêl hon, mae’n parhau i archwilio safleoedd priodol ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor. 

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Sara Burch, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar:  “Mae’n ddyletswydd arnom i ddarparu nifer fach iawn o leiniau fel rhan o’n hymrwymiad o’r newydd i ddarparu tai fforddiadwy yn Sir Fynwy. Rwy’n ddiolchgar i aelodau’r Pwyllgor Craffu ac i Gynghorwyr o bob plaid a gymerodd ran yn y broses o lunio rhestr fer.  Rydym wedi ymrwymo i ddarparu safleoedd bach llwyddiannus lle gall aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ymgartrefu, gweithio ac anfon eu plant i’r ysgol.”

Mae’r Cyngor wedi cadarnhau y bydd proses ymgynghori yn cael ei lansio pan fydd safleoedd wedi’u nodi i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.  Cyn y gellir adeiladu unrhyw safle, bydd angen sicrhau caniatâd cynllunio, a bydd ymgynghoriad gyda darpar drigolion a’r gymuned leol ar bob cam. 

Os hoffech awgrymu safle i’w ystyried, cysylltwch â HousingRenewals@monmouthshire.gov.uk erbyn y 23ain Awst 2023.