Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid yn galluogi’r gwaith o ddylunio rhwng 15a 20 o Brosiectau Seilwaith Gwyrdd bach a chanolig eu maint yn y Fenni, Trefynwy, Magwyr gyda Gwndy a Rogiet. Seilwaith Gwyrdd yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio creu a rheoli mannau gwyrdd, yn ogystal â chynlluniau fel plannu coed brodorol, rheoli coetiroedd a safleoedd sy’n cynnal bywyd gwyllt a pheillwyr, gan gynnwys pyllau dŵr  a gwlypdiroedd.

Mae’r prosiect hwn yn gofyn am farn trigolion lleol am y safleoedd arfaethedig a’r gwelliannau bioamrywiaeth. Er mwyn cymryd rhan, ewch i wefan Monlife, llenwch holiadur byr a rhowch eich adborth cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben am hanner nos ar ddydd Llun 4 Medi, 2023.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi mapio ‘Coridorau Gwyrdd’ (cyfres o fannau gwyrdd cysylltiol) sy’n croes-groesi ardaloedd trefol. Mae bywyd gwyllt, fel peillwyr ac adar, yn defnyddio’r coridorau gwyrdd hyn a’r mannau gwyrdd cysylltiedig fel cerrig camu ar gyfer lloches neu i ddod o hyd i fwyd, ar eu ffordd i dirweddau mwy sy’n amgylchynu ein haneddiadau. Mae mannau trefol yn dod yn fwyfwy pwysig wrth helpu ein bywyd gwyllt i ffynnu.

Mae pwysigrwydd cael cynefinoedd brodorol llawn bywyd gwyllt wedi’i nodi ar safleoedd gwyrdd penodol, ac mae dyluniadau amlinellol arfaethedig wedi’u dylunio i weithio ochr yn ochr â’r defnydd presennol a wneir o’r mannau gwyrdd hyn. Y buddion ychwanegol i’r cynefinoedd newydd neu well hyn yw: creu ecosystemau gwydn, llesiant cymunedol, rheoli newid yn yr hinsawdd, darparu aer glân, storio carbon, darparu atebion llifogydd a chreu mynediad at natur ar garreg ein drws. Lle bo modd, bydd y Cyngor yn ceisio cyllid i ddarparu’r safleoedd hyn yn y dyfodol.

Mae lleoliadau arfaethedig Sir Fynwy yn cynnwys:

Y Fenni: Cynllun Allweddol Ymylon Hen Ffordd Henffordd, Maes Parcio Ysgol Gynradd Deri View Hen Ffordd Henffordd, Hen Heol Henffordd (Canol), Hen Heol Henffordd (De), Parc Belgrave, Ysgol Gynradd Cantref, Ysgol Gynradd Gatholig Our Lady & St Michael,

Trefynwy: Rolls Avenue, Cae Chwarae Clôs Hendre, Rockfield Avenue a Watery Lane, Clawdd Du (Gorllewin), Clawdd Du (Dwyrain)

Magwyr gyda Gwndy: Ymylon Heol Casnewydd, Rhodfa Blenheim a Pharc Redwick .

Rogiet: Ymylon ac ynysoedd traffig Slade View, Caeau Chwarae Rogiet, Parc Cefn Gwlad Rogiet/Cyffordd Twnnel Hafren.

Prosiectau Seilwaith Gwyrdd posibl y gellir eu cynnwys (yn dibynnu ar ecoleg bresennol y safle):

• Gwrychoedd newydd/rheoli gwrychoedd

• Newid rheolaeth glaswelltir/ dolydd blodau gwyllt brodorol

• Plannu bylbiau brodorol

• Plannu Coed Brodorol, gan gynnwys Perllannau

• Rheoli coetir, megis prysgoedio

• Creu pwll neu grafiadau llaith/gwlyb

• Cartrefi bywyd gwyllt: blychau adar/ystlumod/mamaliaid/ llochesi fel rhan o’r cynllun

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Byw: “Rydym wrth ein bodd bod y cyllid ar gael i ddatblygu cynlluniau ar gyfer coridorau gwyrdd yn Sir Fynwy. Rwy’n gobeithio y bydd trigolion a busnesau yn yr ardaloedd sy’n cael eu hystyried – Y Fenni, Magwyr gyda Gwndy, Trefynwy a Rogiet – yn manteisio ar y cyfle i gymryd rhan a’n rhoi gwybod i ni beth hoffent ei weld yn cael ei gynllunio ar gyfer eu cymuned.”

Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’r arolwg hwn yn bwysig a bydd yn helpu i gael dealltwriaeth well o’r hyn y mae cymunedau Sir Fynwy ei eisiau. Rydym eisoes yn gweithio gyda Chynghorwyr Tref a Sir etholedig yn ogystal â grwpiau diddordeb lleol, ond mae’n bwysig bod y timau sy’n gweithio ar y prosiect hwn yn deall sut mae’r mannau gwyrdd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a’r hyn y mae cymunedau am ei weld yn y mannau gwyrdd hyn. Rwy’n annog pawb i ymweld â Prosiect Seilwaith Coridorau Gwyrdd – Monlife lle byddwch yn dod o hyd i ddolen i holiadur. Bydd eich adborth yn helpu’r prosiectau hyn i ddatblygu.”