Skip to Main Content

Fel rhan o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru 2023/24, mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn £6.99 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, sef y dyraniad uchaf yng Nghymru. Daw hyn ar ôl blynyddoedd o gynnydd mewn cyllid ar gyfer prosiectau strategol ar draws y sir, sy’n adleisio’r ymrwymiad y mae Sir Fynwy wedi’i wneud i alluogi pobl i gerdded, symud ar olwynion a beicio yn lle defnyddio eu ceir.

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi derbyn £500k mewn cyllid craidd, sydd i’w ddefnyddio ar gyfer dylunio a datblygu prosiectau Pont Gwy a Chysylltiadau Wyesham, ac ar gyfer prosiectau llai ledled y sir, gan ganolbwyntio ar fân welliannau i lwybrau Teithio Llesol, gan sicrhau eu bod yn cwrdd â’r safonau gofynnol.

Teithio Llesol yw’r term a ddefnyddir ar gyfer mynd o gwmpas drwy gerdded, beicio a symud ar olwynion (sy’n cynnwys cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd), yn hytrach nag mewn car ar gyfer teithiau byr bob dydd, fel mynd i’r ysgol, gwaith neu siopa. Mae gan Sir Fynwy gynllun deng mlynedd ar gyfer gwneud gwelliannau ar draws y sir, sydd wedi eu rhannu yn brosiectau penodol.

Yn y Fenni,  bydd y cyllid sydd newydd ei gyhoeddi yn golygu y bydd modd adeiladu Rhan 1 o’r bont newydd i gerddwyr a beicwyr yn cael ei hadeiladu ar draws Afon Wysg tua 50 metr i’r dwyrain o’r bont ffordd bresennol. Bydd y groesfan hon rhwng Dolydd y Castell a Chaeau’r Ysbyty yn ei gwneud yn iachach ac yn fwy diogel i gerddwyr a’r sawl sy’n symud ar olwynion i gyrraedd y dref ac i’r orsaf reilffordd. Bydd yn golygu y bydd trigolion yn gallu teithio o Lan-ffwyst i’r Fenni i weithio, i’r ysgol neu i apwyntiadau, heb orfod cerdded ochr yn ochr â cheir a lorïau. Ewch i www.monlife.co.uk/cy/outdoor/active-travel/trosolwg-cynllun-strategol-y-fenni/ i ddarganfod mwy am y prosiect cyffrous hwn.

Yng Nghil-y-coed bydd y llwybr Teithio Llesol yn defnyddio’r hen reilffordd i’w throi’n llwybr newydd ar gyfer cerdded a symud ar olwynion. Bydd yn darparu cyswllt di-gar rhwng Castell Cil-y-coed a’r Parc Gwledig i Heol yr Eglwys a fydd yn mynd â phobl drwy gefn gwlad ac’u cadw i ffwrdd o’r ffyrdd. Bydd hefyd yn galluogi pobl leol sy’n gweithio yn Mitel, parc busnes Castlegate ac Ystâd Ddiwydiannol y Bont Hafren i deithio oddi ar y ffordd o’u cymdogaeth i’r gwaith. Am fwy o wybodaeth ewch i www.monlife.co.uk/cy/outdoor/active-travel/trosolwg-cynllun-strategol-cil-y-coed/

Yn Nhrefynwy bydd y cyllid yn arwain at ddatblygiad y bu disgwyl mawr amdano ar gyfer datblygu pont droed a beicio ar draws Afon Gwy. Mae’r bont, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan lawer o drigolion, yn y cam cynllunio ar hyn o bryd. Bydd yn darparu llwybr diogel o Wyesham i Drefynwy i fyfyrwyr sy’n mynd i’r ysgol. Bydd hefyd o fudd i unrhyw un sydd am deithio’n ddigoel i’r gwaith neu i apwyntiadau, i ffwrdd o’r ceir a’r lorïau ar bont ffordd brysur Gwy.

Hefyd yn Nhrefynwy, mae cynllun Cysylltiadau Lôn Caeau Williams yn mynd yn ei flaen. Bydd yn gwneud gwelliannau mawr i’r llwybr cerdded a beicio o Lôn Caeau Williams i Bont Mynwy, gan ei gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i deithio i ganol y dref ar unrhyw adeg o’r dydd ac unrhyw adeg o’r flwyddyn. Bydd croesfan newydd hefyd ar draws Ystâd Ddiwydiannol Wonastow, fel rhan o’r cynllun ehangach sy’n cysylltu Kingswood Gate â chanol Trefynwy. I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Trefynwy ewch i www.monlife.co.uk/cy/outdoor/active-travel/mynwy/

Dywedodd y Cyng. Dywedodd Sara Burch, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol ac Byw: “Mae hwn yn newyddion gwych i’r sir ac yn amlygu’r camau y mae Sir Fynwy yn eu cymryd i annog mwy o bobl i gefnogi Teithio Llesol a gadael y car gartref. Cyn hir, byddwn yn dechrau gweld prosiectau mawr yn cael eu cyflawni ar lawr gwlad, a fydd yn helpu i ddatgarboneiddio ein trafnidiaeth, a hynny un daith ar y tro. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu ein gweledigaeth ar y cyd – Cymru lle mae cerdded a beicio yn ddewis diogel ac arferol ar gyfer teithiau lleol.

“Mae’r cynlluniau Teithio Llesol hyn wedi’u datblygu a’u llywio gan anghenion ein cymunedau, ac rydym yn ymgysylltu ac yn gwrando arnynt yn barhaus. Rydym wedi bod yn clywed gan bobl ers blynyddoedd lawer am yr angen am lwybrau cynhwysol, hygyrch. Mae heddiw’n nodi cam mawr ymlaen at gyflawni hyn ar gyfer Sir Fynwy a’i chymunedau.

“Y cyfanswm cyllid hwn o £7.49miliwn yw’r dyfarniad Teithio Llesol mwyaf erioed i Gyngor Sir Fynwy ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru, sy’n dangos ei ymrwymiad i wella llwybrau ar gyfer cerdded, beicio a symud ar olwynion yn y sir. Roedd dyfarniadau blaenorol yn cynnwys £3.9 miliwn yn 22/23, £3 miliwn yn 21/22 a £1.8miliwn yn 20/21.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol yn Sir Fynwy ewch i www.monlife.co.uk/cy/outdoor/active-travel/

  neu mae modd cysylltu gyda’r tîm drwy e-bostio  ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk