Skip to Main Content

Yn ystod wythnos y 5ed o Fehefin, mynychodd ysgolion cynradd Sir Fynwy y Gynhadledd PlayMaker. Y nod oedd dod ag arweinwyr ifanc Sir Fynwy ynghyd ar gyfer hyfforddiant pellach ac i ddathlu eu taith yn dysgu sgiliau arweinyddiaeth. Roedd plant o 27 o’r 30 ysgol gynradd yn Sir Fynwy wedi cymryd rhan mewn carwsél o weithgareddau a ddarparwyd gan Wasanaethau BywydMynwy, Academi Arweinyddiaeth BywydMynwy a phartneriaid allanol, gan gynnwys grwpiau ‘parkrun’ Rogiet a Dixton, Hybiau Cymunedol Sir Fynwy (a llyfrgelloedd), Bowls Cymru a Chymuned Clwb Rygbi’r Dreigiau. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys datblygu cyfleoedd chwarae, hyrwyddo Teithio Llesol, llais y disgybl, gweithdai Corff Llywodraethu Cenedlaethol, Adeiladu Tîm, ymwybyddiaeth o Les, hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd a llawer mwy.

Derbyniodd y rhaglen, a oedd yn cynnwys wythnos o ddigwyddiadau,  gefnogaeth wych gan ysgolion uwchradd yng Nghil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy, a ddarparodd eu cyfleusterau ar gyfer y digwyddiadau yn ogystal â chlwb Rygbi’r Fenni a chlwb Bowlio’r Fenni ym Mharc Bailey.

Mae tîm Datblygu Chwaraeon BywydMynwy wedi bod yn cyflwyno gwobr PlayMaker Arweinwyr Chwaraeon drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan ymgysylltu â phob un o’r 30 ysgol gynradd yn Sir Fynwy. Mae’r wobr wedi’i chyflwyno i gyfanswm o 938 o ddisgyblion Blwyddyn 5 y flwyddyn academaidd hon, gyda’r nod o addysgu sgiliau allweddol i ddisgyblion fel cyfathrebu, arweinyddiaeth, trefniadaeth a dygnwch. Ar ôl i’r disgyblion ennill y wobr, maent yn cynorthwyo i gael effaith gadarnhaol ar les yn eu hysgolion. Dyma gam cyntaf llwybr arweinyddiaeth Datblygu Chwaraeon, cyn trosglwyddo i gynllun Llysgenhadon Efydd Blwyddyn 6 ac academïau Arweinyddiaeth Ysgolion Uwchradd.

Mae Datblygu Chwaraeon wedi bod yn cyflwyno gwobr PlayMaker ers blwyddyn academaidd 2017/18, gan roi’r cymhwyster arweinyddiaeth i ddisgyblion ym Mlwyddyn 5 i Flwyddyn 10. Ers i’r prosiect ddechrau, mae mwy na 5,500 o blant wedi cymryd rhan yn y cynllun.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mary Ann Brocklesby: “Mae’r ffordd y mae dysgwyr Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn y wobr PlayMaker wedi gwneud cymaint o argraff arnaf. Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar bron i fil o bobl ifanc y flwyddyn academaidd hon, sy’n anhygoel. Rwy’n falch o bob disgybl unigol sydd wedi bod yn rhan o hyn, a hoffwn ddiolch hefyd i’r holl sefydliadau sydd wedi ymuno â ni er mwyn medru cynnig y rhaglen wych hon.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Arweinwyr Chwaraeon SLQ, Richard Norman: “Rydym yn cael ein hysbrydoli am byth gan ein partneriaeth PlayMaker gyda BywydMynwy. Ers dros 10 mlynedd bellach, mae BywydMynwy wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu sgiliau arwain mewn plant oed ysgol gynradd ac mae wir yn buddsoddi yn nyfodol plant Sir Fynwy. Gwyddom, trwy feithrin hyder a sgiliau plant, ein bod yn rhoi’r cyfle iddynt fod y fersiwn orau ohonynt hwy eu hunain yn y dyfodol. Rydym yn mawr obeithio y byddwn yn 2033 yn dathlu 20 mlynedd o lwybr arweinyddiaeth BywydMynwy a chyraeddiadau miloedd lawer o PlayMakers ar draws Sir Fynwy a fydd wedi elwa o’r rhaglen hon.”

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen PlayMaker neu’r rhaglenni Datblygu Chwaraeon ehangach, ewch os gwelwch yn dda i – www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/ neu e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk