Skip to Main Content

Sicrhawyd cyllid y flwyddyn ariannol hon i ddechrau adeiladu’r bont Teithio Llesol newydd ar draws yr afon Wysg, ac mae cynlluniau diwygiedig ar gyfer y gatiau mynediad i Ddolydd y Castell wedi cael eu cytuno rhwng Cyngor Sir Fynwy a Thrafnidiaeth Cymru. Bydd cais cynllunio i wella llwybrau drwy Ddolydd y Castell, y Fenni, yn cael ei ystyried yn y dyfodol agos gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor. Cafodd trafodaethau cynllunio eu gohirio o gyfarfod cynllunio mis Gorffennaf wrth i ymholiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru am ecoleg y safle gael ei archwilio.

Bydd grid gwartheg gyda giât a oedd yn cael eu treialu yn Nolydd y Castell yn cael eu symud a’u disodli gan giât yn unig, ac ni fydd gan y bont newydd ar draws y Gafenni gridiau na gatiau ac felly’n caniatáu mynediad heb rwystrau. Bydd pwyntiau mynediad eraill sy’n arwain at ffyrdd a meysydd parcio yn cael gatiau moch yn lle gatiau sengl hawdd eu hagor, gatiau sengl hunan-gau a grid gwartheg lled beic ar gyfer beiciau a sgwteri symudedd. Bydd y gridiau’n cael eu defnyddio dim ond pan fydd gwartheg yn pori, sydd fel arfer rhwng mis Gorffennaf a mis Ionawr, i roi mynediad hawdd i bob defnyddiwr wrth gadw’r gwartheg wedi’u hamgáu. Mae pori gan wartheg yn bwysig i fioamrywiaeth y dolydd dŵr traddodiadol.   

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Sara Burch, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar: 

“Rwy’n falch iawn bod cyllid wedi’i sicrhau’r flwyddyn ariannol hon i alluogi dechrau’r gwaith o adeiladu’r bont Teithio Llesol newydd ar draws yr afon Wysg yn Nolydd y Castell. Y gobaith yw y bydd yn cael ei gwblhau yn 2024 ac y bydd yn ei gwneud yn fwy diogel i bobl deithio rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni.

“Rydym wedi gwrando ar farn y cyhoedd ynghylch pwyntiau mynediad i Ddolydd y Castell ac o ganlyniad byddwn yn cael gwared ar y grid gwartheg a oedd yn cael ei dreialu. Mae’r cynigion gwreiddiol yn arfer gorau cenedlaethol ar gyfer llwybrau teithio llesol sy’n croesi ardaloedd lle mae gwartheg yn pori, ond yn amlwg mae angen dull pwrpasol ar Ddolydd y Castell. Mae’r tîm wedi archwilio amryw o ddewisiadau eraill yn dilyn digwyddiad yn gynnar eleni, gan gynnwys yr hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill ac awgrymiadau a wnaed gan y cyhoedd.  Mae hwn yn safle cymhleth ac nid oes atebion hawdd.  Dim ond lle byddem yn disgwyl i berchennog ci cyfrifol gael ei gi ar dennyn, megis mynedfeydd meysydd parcio a’r ffordd y byddwn yn gosod gridiau.  Bydd arwyddion clir lle bynnag y cânt eu gosod.  Rwy’n ddiolchgar i Drafnidiaeth Cymru am barhau i’n cefnogi gyda chyllid Teithio Llesol gan hefyd ganiatáu hyblygrwydd o ran sut rydym yn cyflawni’r cynllun.

“Mae’r cynllun hwn yn fuddsoddiad mawr yn nyfodol y Fenni ac mae’n rhaid i ni gael pob manylyn yn iawn.  Ein nod o hyd yw galluogi pawb i fwynhau Dolydd y Castell hardd gan gynnwys cerddwyr, teuluoedd â phlant bach, pobl â symudedd cyfyngedig, beicwyr a pherchnogion cŵn. Bydd pobl yn gallu dewis defnyddio’r arwynebau newydd, diogel, deniadol, wedi’u rhwymo a resin, neu grwydro trwy’r llwybrau anffurfiol. Bydd y llwybrau Teithio Llesol yn darparu llwybr diogel a dymunol i gerddwyr a beicwyr rhwng Llan-ffwyst a gwahanol ardaloedd y Fenni, gan gynnwys ysgol newydd y Brenin Harri VIII a’r orsaf. Byddwn yn parhau i ymgynghori ar fanylion y cynllun ar bob cam.”      

Bu rhywfaint o ddyfalu’n lleol y byddai’n rhaid cadw cŵn sy’n cael eu cerdded ar y dolydd ar dennyn o ganlyniad i’r cynllun hwn. Mae hyn yn anghywir – bydd cŵn yn parhau i gael eu caniatáu oddi ar dennyn pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny ar Ddolydd y Castell. Rhaid i gŵn ar dennyn neu oddi ar dennyn fod o dan reolaeth perchennog bob amser, yn enwedig o ran plant, beicwyr a gwartheg.  A dylai pob perchennog cŵn cyfrifol bob amser godi baw ar ôl eu ci.

Mae’r llwybr arfaethedig yn y Fenni yn un o lawer ar draws y wlad sydd wedi cael eu cynnig o ganlyniad i Ddeddf Teithio Llesol (Cymru). Nod y ddeddf yw lleihau faint o deithiau ceir trwy wella’r llwybrau teithio llesol mewn trefi.  Nod hyn yn ei dro yw lleihau llygredd, gwella iechyd a chydraddoldeb.

Mae’r cynllun wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Teithio Llesol, a weinyddir gan Drafnidiaeth Cymru.  Mae’r arian hwn wedi’i neilltuo ar gyfer gwelliannau i lwybrau Teithio Llesol.  Mae pob cam o’r cynllun yn amodol ar gymeradwyaeth ariannol ar wahân, a dim ond ar adegau penodol o’r flwyddyn y gellir adeiladu ar Ddolydd y Castell, gan wneud hwn yn brosiect aml-flwyddyn. Am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Teithio Llesol yn y Fenni ac i weld y cwestiynau cyffredin am y cynllun, ewch i: https://www.monlife.co.uk/castle-meadows-faq/

Tags: