Skip to Main Content
Families gathered in hall - Welsh, Ukraine and British flag are in the background

Trefnodd grŵp o deuluoedd Wcreinaidd ddigwyddiad yng Nghanolfan Palmer yng Nghas-gwent i ddangos diolch am y croeso a gawsant gan y gymuned leol.  Mae trigolion wedi agor eu cartrefi i’r rhai sy’n ceisio lloches yn dilyn ymosodiad arswydus Vladimir Putin ar eu gwlad.   Mae Sir Fynwy wedi croesawu mwy o ffoaduriaid o Wcráin na bron unrhyw ran arall o Gymru, gyda mwy na 50 o deuluoedd yn cael eu cynnal yng nghyffiniau Cas-gwent a Fforest y Ddena yn unig. 

Mynychwyd y digwyddiad gan Faer a Dirprwy Faer Cyngor Tref Cas-gwent, y Cynghorwyr Margaret Griffiths a Tudor Griffiths; Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorwyr Mary-Ann Brocklesby a Paul Griffiths; cynghorwyr tref a sir o Gas-gwent a’r ardaloedd cyfagos; Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Davies AS; a Gweinidog Diogelwch y DU, Tom Tugendhat AS.  Dywedodd Wrcreinwyr wrth y gwesteion a oedd wedi ymgynnull straeon teimladwy am brofiad dirdynnol y goresgyniad a’r cynhesrwydd a’r diogelwch y maent wedi’u canfod yng Nghas-gwent. Roeddynt hefyd yn darparu rhaglen o gân a dawnsio traddodiadol yn ogystal â digonedd o fwyd traddodiadol Wcreinaidd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby,

“Roedd yn fraint cael bod yn y digwyddiad hwn a drefnwyd gan ein gwesteion Wcreinaidd. Roedden nhw’n awyddus i ddiolch i gymuned Cas-gwent am eu croesawu ac i’r Cyngor Sir am ei chefnogaeth i ddarparu lleoedd ysgol, a’r cymorth ariannol ac ymarferol. Rhoddodd y digwyddiad ddarlun ysbrydoledig o faint y mae cymuned Sir Fynwy yn elwa o’n gwesteion Wcreinaidd. Dywedasant wrthym am erchylltra’r goresgyniad erchyll. Gan wenu a chanu drwy eu trallod, maent wedi dangos cryfder yr ysbryd dynol i ni. Mae ein cymuned wedi cael ei chyfoethogi gan eu presenoldeb yn ein plith.”

Mae Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn dal i chwilio am bobl sy’n barod i gynnal gwesteion o Wcráin am hyd at chwe mis ac yn cynnig taliad bach o £500 y mis i’r rhai sy’n gallu gwneud hyn.   Mae’r awdurdod lleol hefyd yn annog landlordiaid, sydd ag eiddo y byddent yn fodlon eu gosod i deulu o Wcráin, i gysylltu dros e-bost i ukrainesupport@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644644.  Gall y rhai sy’n chwilio am fwy o wybodaeth ymweld â’r dudalen we https://www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain.