Skip to Main Content
a pile of compost for sale at the Reuse Shop at Five Lanes recycling centre

Mae compost o’r ardd yn wych ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau eich hun sydd yn blasu’n well ac yn medru arbed arian – dyna’r neges ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth o Gompostio (7fed – 13eg Mai).

Er mwyn eich helpu i fwrw ati, mae Siopau Ailddefnyddio Cyngor Sir Fynwy  nawr yn dechrau gwerthu compost, biniau compost,  casgenni dŵr, offer ar gyfer yr ardd a photiau – oll am bris fforddiadwy. Ewch i’r Siopau Ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Llan-ffwyst ar ddydd Mawrth (NP7 9AQ) neu ganolfan ailgylchu Five Lanes ar ddydd Mercher a dydd Iau (NP26 5PD) rhwng 10am a 3pm.

Mae’r Cyngor yn casglu gwastraff o’r ardd sydd gan drigolion Sir Fynwy, ond mae’n cael ei drawsnewid yn gompost/cyflyrydd pridd cyfoethog gan Gwmni Gwastraff Gwyrdd y Fenni. Mae’r compost wedyn yn cael ei werthu yng nghanolfannau ailgylchu Llan-ffwyst a  Five Lanes am gyn lleied â £3 y bag neu’r bocs – mae’r holl elw yn mynd wedyn tuag at blannu coed yn y sir.

Drwy gyfrannu at hyn, neu drwy ddefnyddio eich compost eich hun neu sydd wedi ei wneud yn lleol, mae hyn yn medru lleihau’r angen am wrteithiwr neu blaladdwyr niweidiol yn ogystal â helpu arbed dŵr a storio carbon yn y pridd.    

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae casglu’r gwastraff o’r ardd yn cael effaith bositif ar yr argyfwng hinsawdd. Mae’r compost sydd yn cael ei greu yn cael ei osod nôl yng ngerddi’r trigolion sydd yn ei brynu o’r Siopau Ailddefnyddio, ac mae’r elw yn mynd at blannu coed yn y sir.

“Er mwyn cefnogi hyn, mae’n bwysig fod pawb ohonom yn sicrhau nad oes unrhyw fagiau plastig, polystyren neu labeli plastig o blanhigion yn cael eu gadael yn y gwastraff  o’r ardd sydd yn cael ei gasglu, neu yn y sgipiau gwastraff gwyrdd sydd  yn y canolfannau ailgylchu. Yn sgil hyn, rydym yn medru sicrhau bod y compost sydd yn cael ei wneud yn lleol yn parhau o’r safon uchaf a bod yr holl fater organig yn medru mynd nôl i’r pridd yn Sir Fynwy, sydd yn wych wrth gwrs ar gyfer y pridd a ni!”

Mae’r Siopau Ailddefnyddio  yng nghanolfan ailgylchu Llan-ffwyst (NP7 9AQ) a chanolfan ailgylchu Five Lanes (NP26 5PD) ar agor rhwng 10am a 3pm. Nid oes angen cofrestru er mwyn ymweld. Mae mwy o wybodaeth yma: www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/gwastraff-gardd/