Skip to Main Content
people picking up litter, with piles of litter in the foreground

Roedd timau o Gyngor Sir Fynwy, Cadw Cymru’n Daclus  (CCD) a Melin Homes wedi mynd ati wythnos diwethaf i lanhau’r ardal ger Hillside yn y Fenni.

Roedd siop Ailddefnyddio o ganolfan ailgylchu a gwastraff Llan-ffwyst  wedi cynnal siop dros dro, yn gwerthu eitemau sydd wedi eu hachub, a bydd yr elw yn mynd tuag at blannu coed.  Roedd bagiau ailgylchu y mae modd eu hail-ddefnyddio hefyd wedi eu danfon i bob aelwyd ac roedd cydweithwyr yno yn cynnig cyngor ar yr eitemau gorau i’w hailgylchu.

Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd fel rhan o ymgyrch genedlaethol Cadw Cymru’n Daclus ar tipio anghyfreithlon, sef  Nid Ar Fy Stryd I, sydd yn annog aelwydydd i waredu ar eu sbwriel ac eitemau mawr o gelfi, nwyddau trydanol a theganau’r ardd, yn ofalus.   

Yn ystod y dydd, roedd staff CCD a’r Cyngor wedi casglu mwy na dwsin sach o sbwriel, tri bag porffor o ganiau a photeli plastig ac un bocs o foteli gwydr ar gyfer eu hailgylchu.   

Roedd tipyn o sbwriel, sef tipio anghyfreithlon, hefyd wedi ei gasglu o’r gwrychoedd a oedd yn cynnwys pedair olwyn car, carped, llawer o deganau plant, soffa, hen ffrâm wely a thin o baent a phâr o esgidiau glaw,

Mae ystâd Hillside yn elwa o olygfeydd anhygoel gyda choed aeddfed a gwrychoedd iachus sydd yn bwysig fel cynefinoedd ar gyfer adar sy’n nythu a mamaliaid bach.  

Mae tipio anghyfreithlon yn costio’r cyhoedd swm anhygoel o £72 bob munud ac mae awdurdodau lleol yn medru rhoi dirwy cosb benodedig rhwng £150 a £400 i unrhyw un sy’n tipio’n anghyfreithlon.  

Cofiwch i fynd ag unrhyw eitemau mawr o’ch cartref i ganolfan ailgylchu Llan-ffwyst neu  un o’r canolfannau ailgylchu eraill yn Sir Fynwy.  Er mwyn trefnu apwyntiad mewn canolfan ailgylchu, ewch i  www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/household-waste-recycling-centres/ neu ffoniwch 01633 644644.

Mae Homemakers Community Recycling hefyd yn casglu eitemau mawr o gelfi. Ffoniwch  01873 857618 am fwy o wybodaeth.