Skip to Main Content
Photo: L-R: Head Teacher, Sue Marles, with pupils and teacher Laura Griffiths who all worked together to secure the Health School status
Llun: Ch-Dd: Y Pennaeth, Sue Marles, gyda disgyblion a’r athrawes Laura Griffiths a oedd wedi gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau’r statws Ysgol Iachus

Mae staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaglan yn dathlu ar ôl i’r ysgol gael ei chydnabod fel ‘Ysgol Iachus’.  Mae’r dyfarniad ansawdd cenedlaethol yn cydnabod y gwaith y mae’r ysgol gyfan wedi gwneud  er mwyn hyrwyddo ac amddiffyn iechyd corfforol, emosiynol a chymdeithasol ynghyd â lles y disgyblion.

Mae Pennaeth Rhaglan, Sue Marles, a’r athrawon Laura Griffiths (arweinydd iechyd a lles yr ysgol), Sarah Jenkins (arweinydd Eco) a Katie Brocklehurst, oll wedi gweithio’n galed gyda Sally Amos, Ymarferydd Ysgolion Iachus yng Nghyngor Sir Fynwy, er mwyn sicrhau’r gydnabyddiaeth haeddiannol hon, gan ddod yn rhan o Rwydwaith Ysgolion Iachus Cymru. Dathlwyd hyn mewn gwasanaeth arbennig, pan oedd Aelod Ward Rhaglan, y Cynghorydd Penny Jones, wedi mynychu ac mae hefyd yn gyn Lywodraethwr ar yr ysgol.

Mae Dyfarniad Ansawdd Cenedlaethol y Cynllun Rhwydwaith Ysgolion Iachus Cymru yn achrediad cydnabyddedig sydd wedi ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ac iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n cydnabod ysgolion sydd yn arddangos dull ysgol gyfan o hyrwyddo iechyd a lles ac mae’n cael ei asesu gan asesydd annibynnol.

Dywedodd y Pennaeth, Sur Marles: “Rwy’n falch iawn o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni fel mudiad. Mae’n cydnabod y safonau uchaf a’r gwaith arloesol sydd wedi ei wneud gan ddysgwyr a staff sydd yn sicrhau bod iechyd a lles yn rhan annatod o bob agwedd o’r ysgol. Dros amser, mae disgyblion wedi cyfrannu at fentrau sydd wedi eu gweithredu ar draws yr ysgol fel ‘Cilomedr y Diwrnod’, ‘Llysgenhadon y Maes Chwarae’, ‘Siop Ffrwyth a Llysiau’ gan roi gwybod i’w cyfoedion sut i ddod yn Unigolion Hyderus ac Iachus. Maent hefyd wedi cydnabod a dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd gan ddod â chymuned yr ysgol ynghyd er mwyn annog partneriaid siarad. Cenhadaeth ein hysgol yw ‘lle yr ydym yn caru dysgu a’n dysgu caru’ a ‘Meithrin, Ysbrydoli, Credu a Chyflawni’ sydd wedi eu datblygu ar ôl ymgynghori gyda phlant, staff a rhieni a llywodraethwyr ac yn ymgorffori’r athroniaeth ofalgar a bod lles wrth wraidd bob dim y mae’r ysgol yn cynllunio a’n cyflenwi.”

Roedd yna nifer o enghreifftiau yn dangos natur holistaidd iechyd a lles o fewn yr ysgol, sef  dull sydd yn atgyfnerthu mewn modd positif i’r disgyblion y pwysigrwydd o ddiogelu a hyrwyddo eu hiechyd a’u lles hwy eu hunain ac eraill.

Roedd yr adborth gan yr aseswyr a oedd wedi mynychu’r ysgol fel rhan o’r broses achredu yn bositif iawn: “Roedd yn bleser gweithio gyda dysgwyr ysgol Rhaglan. Roeddynt yn medru mynegi eu hunain yn huawdl ac wedi serennu ar ddiwrnod yr asesiad. Maent yn gaffaeliad i’r ysgol a’u teuluoedd.”

Am fwy o wybodaeth am Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaglan, ewch i  www.raglanciwvcprimary.co.uk/