Skip to Main Content
Arweinydd y Cyngor Mary Ann Brocklesby,  cynrychiolwyr Love Your Period, Stacey White (Arweinydd Llesiant Cymunedol Cyngor Sir Fynwy), Cyng Sara Burch, Cyng Angela Sandles, Cyng Catherine Fookes, Ginevra o The Wool Croft a Liz o Dignity Bags
Arweinydd y Cyngor Mary Ann Brocklesby,  cynrychiolwyr Love Your Period, Stacey White (Arweinydd Llesiant Cymunedol Cyngor Sir Fynwy), Cyng Sara Burch, Cyng Angela Sandles, Cyng Catherine Fookes, Ginevra o The Wool Croft a Liz o Dignity Bags

Hyb Llesiant y Fenni oedd lleoliad y digwyddiad Urddas Mislif cyntaf a drefnwyd gan dîm Cymunedau Cyngor Sir Fynwy. Cefnogwyd y sesiwn galw heibio, a gynhaliwyd ddydd Mercher 15 Mawrth, gan ymgyrch Love Your Period, tîm Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Cymorth i Ferched Cyfannol, Dignity Bags, The Wool Croft, GAVO a Dechrau’n Deg

Daeth tua 200 o bobl i’r digwyddiad, a roddodd gyngor a chymorth yn ogystal â chynnyrch di-blastig ac amldro. Roedd pobl o bob oed yn y sesiwn yn cynnwys yr arddegau yn awyddus i ganfod mwy am gynnyrch cynaliadwy.

Eitemau ar gyfer y mislif diolch i Hey Girls
Eitemau ar gyfer y mislif diolch i Hey Girls

Roedd The Wool Croft yn y Fenni yn y digwyddiad i ddangos pa mor rhwydd yw hi i wneud eich tywelion mislif amldro eich hun, ac roedd tîm Love Your Period yn helpu i gasglu sylwadau cadarnhaol pobl am y mislif a’r hyn y mae’n ei olygu iddynt.

Mynychodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y digwyddiad gyda’i chyd-gynghorwyr Sara Burch (Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol), Catherine Fookes (Aelod Cabinet Cydraddoldeb) ac Angela Sandles (Aelod Cabinet Ymgysylltu).

Dywedodd y Cyng Brocklesby “Roeddwn yn falch iawn i gefnogi’r digwyddiad hwn, a gobeithiwn y bydd yn un o lawer ar draws y sir. Mae’n bwysig cefnogi’r rhai sy’n cael mislif, yn arbennig bobl ifanc, gyda gwybodaeth am gynaliadwyedd a dewisiadau. Mae Urddas Mislif yn agwedd bwysig o gydraddoldeb ac mae’n rhywbeth yr ydym i gyd yn ei hybu yn holl ysgolion Sir Fynwy. Hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd mor galed i drefnu’r digwyddiad hwn, ac wrth gwrs pawb a neilltuodd amser i ddod draw yno.”

Roedd The Wool Croft yn y Fenni yn y digwyddiad i ddangos pa mor rhwydd yw hi i wneud eich tywelion mislif amldro eich hun
Roedd The Wool Croft yn y Fenni yn y digwyddiad i ddangos pa mor rhwydd yw hi i wneud eich tywelion mislif amldro eich hun

Meddai Molly Fenton, sefydlydd ymgyrch Love Your Period a gaiff ei redeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc: “Roeddem yn falch iawn i gymryd rhan yn y digwyddiad yn y Fenni. Mae urddas a tegwch mislif yn rhan hollbwysig o fywydau’r rhan fwyaf o fenywod, ac yn rhywbeth sy’n dal i fod yn rhwystr i gynifer pan ddaw i gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Felly mae’n bwysig ein bod yn cydnabod sut mae’r holl gylch mislif yn gweithio ac yn newid ein bywydau o ddydd i ddydd.”

Ymgyrch Love Your Period – bwrdd yn llawn negeseuon cadarnhaol gan ymwelwyr
Ymgyrch Love Your Period – bwrdd yn llawn negeseuon cadarnhaol gan ymwelwyr

Roedd sylwadau gan ymwelwyr i’r digwyddiad yn gadarnhaol ac yn cynnwys:

“Rydych wedi rhoi llawer o hyder i mi fedru sgwrsio gyda fy nith yn agored ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddi, dangos gwahanol opsiynau iddi a gwneud iddi deimlo’n llai chwithog. Alla’i ddim aros i ddod draw hefo hi i’r gweithdy Sgwrs gyda Flo.””

“Cyngor a chefnogaeth gwirioneddol ddefnyddiol. Byddwn yn annog fwy o dadau i fynychu digwyddiadau yn y dyfodol a dysgu mwy am bwnc y bydd dynion yn aml yn ei osgoi, diolch”. (Gan dad)

“Llawer iawn o wybodaeth a chynhwysol., Rwy’n llawer mwy hyderus i siarad gyda fy merch, da iawn chi” (gan dad a ddaeth i’r digwyddiad).

Os hoffech wybod mwy am ddigwyddiadau Urddas Mislif neu gefnogaeth ar gyfer ysgolion, safleoedd a grwpiau cymunedol, cysylltwch â staceywhite@monmouthshire.gov.uk

Liz o Dignity Bags gyda’r Cyng Catherine Fookes a’r Cyng Angela Sandles
Liz o Dignity Bags gyda’r Cyng Catherine Fookes a’r Cyng Angela Sandles