Skip to Main Content
Llun: Y Cynghorwyr Angela Sandles a Tudor Thomas mewn sesiwn galw heibio maethu

Bu Cyngor Sir Fynwy yn cynnal digwyddiadau wyneb i wyneb i godi ymwybyddiaeth am faethu yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Hyd yma mae tîm maethu Cyngor Sir Fynwy wedi ymweld â’r Neuadd Sirol yn Nhrefynwy, Hyb y Fenni a Hyb Cil-y-coed. Trefnwyd y sesiynau galw heibio i annog preswylwyr i alw heibio a chael mwy o wybodaeth am faethu yn Sir Fynwy a dysgu am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr maeth.

Mae un sesiwn alw heibio yn dal i’w chynnal y mis hwn – yn Hyb Cas-gwent ddydd Llun 27 Mawrth rhwng 10am a 2pm. Yno bydd tîm maethu nid-er-elw Cyngor Sir Fynwy yn manteisio ar y cyfle i siarad gyda phreswylwyr am sut y gallent helpu i ddarparu cartref sefydlog a chefnogol ar gyfer plant agored i niwed yn y sir. Mae’r tîm hefyd yn anelu i godi ymwybyddiaeth a hybu niferoedd y gofalwyr maeth yn y sir, y mae angen dirfawr amdanynt.

Er fod llawer o bobl yng Nghymru yn ystyried dod yn ofalwr maeth, rhoddir anogaeth i gymryd y cam nesaf. Mae angen i Sir Fynwy sicrhau gofalwyr maeth newydd bob blwyddyn i gadw lan gyda nifer y plant sydd angen gofal.

Dyma rai o’r plant sydd yn edrych am ddechrau newydd a chartref cefnogol:

Mae Ioan yn ddeg oed ac yn frwd mawr cariadus i Gwenna, (nid eu henwau go iawn) ei chwaer fach chwech oed. Mae Ioan yn blentyn chwilfrydig a dychmygus sy’n caru natur a bod yn yr awyr agored. Mae’n hoffi gweld rhaglenni natur ar y teledu a dysgu am y byd naturiol. Mae hefyd wrth ei fodd yn darllen, chwarae Minecraft (mae’n neilltuol o dda am adeiladu tai cymhleth y mae’n falch iawn ohono) ac yn hoff iawn o arwyr Marvel, yn arbennig Spiderman ac Ironman. Mae ei ofalwr maeth presennol yn dweud fod Ioan yn fachgen bach hapus a iach sydd wrth ei fodd yn teimlo’n rhan o bethau ac yn cael ei frifo pan gaiff ei adael mas. Mae Gwenna yn caru ei brawd yn fawr iawn. Disgrifiodd gofalwr maeth Gwenna hi fel plentyn hapus, clyfar, doniol a chariadus. Mae Gwenna yn mwynhau chwarae tu fas a bod allan mewn natur fel ei brawd. Un o’i hoff pethau yw cwtsho lan ar y soffa gyda’i gofalwr maeth a bwyta popcorn ac edrych ar ffilmiau. Mae Gwenna yn bryderus ar hyn o bryd oherwydd nad yw’n deall popeth sydd wedi digwydd  neu beth  fydd yn digwydd nesaf.

Mae Ioan a Gwenna yn caru eu mam yn fawr iawn a byddant angen gofalwyr maeth a all eu helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn eu bywydau. Maent yn byw gyda gofalwyr maeth tymor byr ac maent angen teulu a all ofalu am y ddau ohonynt yn yr hirdymor. Fedrech chi fod y person a all roi’r cariad a’r gofal maent ei angen i’w helpu i deimlo’n ddiogel a theimlo fod rhywun yn eu caru a gofal amdanynt?

Mae Dylan (nid ei enw go iawn) yn un o bum brawd a chwaer. Fel llawer o fechgyn 11 oed mae’n mwynhau chwarae gyda Lego, chwarae gemau ar-lein, chwarae gwyddbwyll a threulio amser gyda chi ei fodryb Rachel. Mae ganddo synnwyr digrifwch gwych ac yn mwynhau coginio a rhoi cynnig ar fwydydd newydd ac mae’n fodlon blasu y rhan fwyaf o bethau. Nid yw Dylan yn hoff iawn o gerddoriaeth ac fel pob plentyn, nid yw’n hoffi rhywun yn dweud wrtho beth i’w wneud, ond mae yn hoffi’r ysgol ac mae’n ymateb yn wirioneddol dda i’r ffiniau cefnogol y mae’r ysgol wedi eu trefnu i’w helpu i ddysgu.

Bu farw ei fam yn sydyn y llynedd ac ni chafodd Dylan y cyfle i ffarwelio. Cafodd Dylan ei fagu mewn teulu oedd yn ynysig iawn yn gymdeithasol, nid oedd neb yn mynd ag ef mas i wneud pethau ac anaml oedd y plant yn gadael cartref y teulu heblaw i fynd i’r ysgol. Ni chafodd Dylan yn arbennig y cariad a’r gefnogaeth roedd ei angen ac ni chafodd y cyfleoedd a gaiff y rhan fwyaf o blant i wneud ffrindiau, datblygu diddordebau allanol a theimlo ei fod yn cyfri neu’n dda am bethau.

Mae gan Dylan angen mawr am gartref cariadus yn Sir Fynwy lle gall dyfu yn medru treulio amser gyda’i frodyr a’i chwiorydd a lle mae’n teimlo ei fod yn cyfri ac y gall ddechrau iachau o’i brofiadau cynnar. Mae angen rhywun a all fod yn amyneddgar, cadarn a charedig gydag ef fel y gall ddysgu y gall y byd fod yn ddiogel ac y gall ffynnu.

Os credwch y gallech helpu plant lleol fel Dylan, Ioan a Gwenna, dewch i gwrdd â’r tîm maethu rhwng 10am a 2pm yn: Hyb Cas-gwent ddydd Llun 27 Mawrth.

Dywedodd y Cyng. Tudor Thomas, Aelod Cabinet Diogelu, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Hygyrch: “Rydym yn ddiolchgar i bawb a all roi amser i siarad gyda’r tîm maethu. Mae pob gofalwr maeth yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant yn Sir Fynwy. Byddwn yn gofyn i unrhyw un sy’n teimlo y gallent fod yn fodel rôl ac a allai gael effaith gadarnhaol ar fywyd plentyn neu berson ifanc i gymryd y cam nesaf a chael mwy o wybodaeth am faethu yn Sir Fynwy.”

Meddai’r Cyng Angela Sandles, Aelod Cabinet Ymgysylltu, sy’n ofalwr maeth ei hun: “Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mwy o wybodaeth am sut y gallech faethu plentyn, dewch draw i un o’n digwyddiadau ym mis Mawrth. Mae gormod o blant sydd wir angen amgylchedd cariadus a sefydlog felly os teimlwch y gallech wneud gwahaniaeth, dewch draw a siarad gydag aelod o’n tîm maethu. Nid oes unrhyw bwysau, felly dewch draws a chael sgwrs a chanfod os yw maethu yn iawn i chi.”

I gael mwy o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth ewch i  wefan Maethu Cymru.