Skip to Main Content

Mae MonLife wedi llunio rhaglen o weithgareddau cyffrous i blant, pobl ifanc a theuluoedd i’w mwynhau yn ystod hanner tymor ysgol mis Chwefror eleni. 

Mae Gemau Sir Fynwy yn dychwelyd, gan ddarparu cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, cwrdd â phobl newydd ac yn bwysicaf oll cael hwyl drwy chwaraeon.  Bydd y rhaglen wythnos o hyd yn rhedeg o ddydd Llun 20fed hyd at ddydd Gwener 24ain Chwefror a chaiff ei gynnal ar draws canolfannau hamdden y sir (Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy). Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth a’r ffurflen archebu – www.monlife.co.uk/cy/monactive/childrens-activities/the-monmouthshire-games/

Yng nghanolfan hamdden Trefynwy mae’r ganolfan chwarae dan do, sy’n cynnwys drysfa ddringo tri llawr cyffrous, sy’n cynnwys system amseru unigryw curwch y cloc. Mae yna hefyd ardal twdlod ddynodedig (sy’n gaeedig). Mae’r ganolfan chwarae ar agor saith diwrnod yr wythnos (heblaw gwyliau’r banc) rhwng 10am a 5.30pm ac mae’n addas ar gyfer yr oedrannau babanod a phlant bach (0-3), plant ifanc (4-8) a phlant hŷn (9-11).  Nodwch oherwydd archeb breifat mae’r ganolfan chwarae ar gau i’r cyhoedd Dydd Sadwrn 18fed ac 25ain Chwefror o 4pm-6pm.

Mae digon o hwyl hefyd i’r teulu cyfan ym mhyllau’r canolfannau hamdden gyda sesiynau anhygoel i’ch diddanu chi neu’ch plant.  Darganfyddwch fwy Nofio – Gweithgareddau Gwyliau MonLife

Mae llawer o hwyl am ddim i’w gael yn Amgueddfeydd MonLife.   Dilynwch y llwybrau chwarae yn amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, chwarae gwisg yn Amgueddfa’r Neuadd Sirol yn Nhrefynwy a byddwch yn greadigol gyda’n byrddau sialc, stondin farchnad a gemau ‘datryswch y drosedd’. Gall plant hefyd goginio rhywbeth yng Nghegin Fwd Amgueddfa’r Fenni a chwarae yn y gerddi gyda gwarbaciau arbennig wedi’u llenwi â phethau hwyliog i’w gwneud yn yr awyr agored, teganau a gemau.

Gall pobl ifanc hefyd fynd yn gudd yn y Neuadd Sirol yn Nhrefynwy, ac amgueddfeydd Cas-gwent a’r Fenni, a phrofi eu sgiliau ditectif fel rhan o Lwybr Dirgelwch Montgomery Bonbon cenedlaethol yr Amgueddfa, a drefnwyd gan Kids in Museums a Walker Books. Mae’r llwybr yn dathlu rhyddhau llyfr plant newydd Montgomery Bonbon: Murder at the Museum a ysgrifennwyd gan y digrifwr Alasdair Beckett-King a darluniwyd gan Claire Powell. Felly beth am ymweld ag amgueddfeydd Sir Fynwy dros hanner tymor ac ymuno â’r hwyl am ddim.  I ddod o hyd i oriau agor yr amgueddfa ewch i: www.monlife.co.uk/cy/heritage/

Bydd MonLife hefyd yn cynnal sesiynau Aros a Chwarae am ddim lle bydd plant a theuluoedd yn cael y cyfle i ddewis o lawer o weithgareddau gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu i ble bynnag y mae eu dychymyg yn eu cymryd.  Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn Hen Ysgol Eglwys Rhaglan ar yr 21ain Chwefror rhwng: 10am-hanner dydd; y Neuadd Sirol, Trefynwy ar yr 21ain Chwefror rhwng 1:30pm-3:30pm; Cwt y Sgowtiaid a Geidiaid Magwyr ar y 23ain Chwefror rhwng 10am-hanner dydd; Ysgol Gynradd Deri View ar y 23ain Chwefror rhwng 1:30pm-3:30pm.  Nodwch fod angen goruchwyliaeth gan rieni ar gyfer plant dan 11 oed. Archebwch nawr trwy’r ffurflen ganlynol: https://forms.office.com/e/w38MZvNMGp Mae manylion llawn am yr hyn sy’n digwydd dros hanner tymor i’w gweld yma: www.monlifeholidayactivities.co.uk/cy/activities-cymraeg/

Bydd y canolfannau ieuenctid ar draws y sir hefyd ar agor ar ddiwrnodau penodol er mwyn i bobl ifanc ymweld â nhw. Maen nhw’n ofod diogel i bobl ifanc gael mynediad, lle gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau, cwrdd â ffrindiau newydd, gyda chefnogaeth Gweithwyr Ieuenctid cymwys a chofrestredig. Bydd Yr Attik, Trefynwy, ar agor ddydd Mawrth 21ain rhwng 3pm a 5pm, dydd Mercher 22ain rhwng 3pm ac 8pm a Dydd Gwener 24ain rhwng 3pm a 6pm. Bydd Y Caban, Y Fenni ar agor dydd Mawrth 21ain a dydd Mercher 22ain Chwefror, 3pm-8pm a dydd Gwener 24ain, 3pm-6pm. Bydd Y Parth, Cil-y-coed ar agor ddydd Mawrth 21ain 2pm-8pm a bydd canolfan ieuenctid ‘The Pav’ yn Thornwell, Cas-gwent, ar agor ddydd Mawrth 21ain rhwng 2pm ac 8pm a Dydd Gwener 24ain Chwefror 2pm-7pm.